Arddangos darlun ‘hirgolledig’ yn Neuadd y Dref Maesteg a hithau ar ei newydd wedd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 07 Ionawr 2022
Bydd darlun hirgolledig gan artist enwog o Faesteg yn cael ei arddangos yn neuadd y dref ar ôl ei hailddatblygu.
Mae Neuadd y Dref Maesteg wedi cartrefu gwaith celf Christopher Williams ers 1934, a nawr bydd gwaith celf arall, y credwyd ei fod yn hirgolledig, yn ymuno â’r casgliad.
Mae’r darlun o Waith Haearn Llynfi - tirlun sy’n nodweddiadol o fro ei febyd ym Maesteg - wedi cael ei gadw mewn storfa ers 1971, a daeth perthynas i’r artist o hyd iddo.
Ar ôl cael ei adfer i’w gyflwr gwreiddiol, gellir dotio ar y darlun yn ei ffrâm wreiddiol yn Neuadd y Dref Maesteg, ar ôl gorffen ailddatblygiad ar yr adeilad hanesyddol a gostiodd £8m.
Ganwyd Christopher Williams yn 1873, ac aeth i astudio yng Ngholeg Brenhinol Celf Llundain. Mae’n adnabyddus am sawl gwaith celf poblogaidd sy’n cynnwys cymeriadau o’r Mabinogi - chwedlau hynafol Cymreig - yn ogystal â phortreadau o’r cyn-Brif Weinidog, David Lloyd George, a ddisgrifiodd Williams fel ‘un o’r artistiaid mwyaf dawnus a anwyd yng Nghymru’.
Mae’n braf gwybod bod y gwaith celf hirgolledig hwn gan un o artistiaid gorau Cymru wedi dod i’r fei, ac yn cael lle pwysig yn Neuadd y Dref Maesteg, sydd wedi’i hailddatblygu.
Rydym ar bigau i groesawu’r cyhoedd i fwynhau’r newid yn yr adeilad, yn ogystal â’r gwaith celf.
Mae gwaith adeiladu ar y lleoliad hynod boblogaidd hwn yn achlysur hanesyddol i Faesteg. Mae cryn dipyn o waith wedi'i gwblhau i gyrraedd y cam hwn lle gellir trawsnewid adeilad hŷn yn lleoliad hyfryd a fydd yn addas am genedlaethau i ddod.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Yn ystod yr ailddatblygiad bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adfer i'w hen ogoniant a'i estynnu ar un ochr gydag atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mesanîn, a llyfrgell fodern.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a nifer o gyllidwyr allweddol ar y prosiect, sy'n un o'r buddsoddiadau mwyaf ym Maesteg ers degawdau.
Rydym yn ddiolchgar i deulu Christopher Williams am gael arddangos y darlun o Waith Haearn Llynfi am gyfnod sylweddol yn Neuadd y Dref, er mwyn i bobl Maesteg a’r cyffiniau ei fwynhau a’i werthfawrogi.
Rydym yn credu mai dyma’r unig ddarlun a wnaed gan Christopher Williams o dirlun ei dref enedigol, ac o gofio bod glowyr y cwm ganrif yn ôl yn rhoi cyflog diwrnod o waith tuag at y gost o adeiladu Neuadd y Dref Maesteg, mae’n nodedig iawn bod y darn pwysig hwn o dreftadaeth ddiwylliannol leol yn cael ei ddangos yn yr adeilad ar ôl iddo ailagor.
Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cyllid adfywio Llywodraeth Cymru, Tasglu'r Cymoedd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Maesteg, y Sefydliad Garfield Weston a'r Ymddiriedolaeth Davies.
Gallwch ddilyn cynnydd yr ailddatblygiad ar wefan Neuadd y Dref Maesteg neu eu tudalen Facebook.