Ar eich marciau – cyhoeddi llwybr Ras 10k Porthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 15 Chwefror 2019
Mae llwybr ras 10k gyntaf Porthcawl yr haf hwn wedi cael ei ddatgelu ac mae partner teitl y digwyddiad hefyd wedi'i gadarnhau.
Bydd miloedd o redwyr yn dod i'r dref ddydd Sul 7 Gorffennaf ar gyfer y ras newydd sbon, a bydd prif gyflenwr maetholion uniongyrchol y DU, Healthspan, wrth galon y cyffro.
Mae llwybr ras 10k Porthcawl Healthspan wedi cael ei ddyfeisio gan Gyfarwyddwr y Ras a'r rhedwr sydd wedi cystadlu mewn dau farathon Olympaidd, Steve Brace, sydd â gwybodaeth graff am yr ardal leol. Bydd y ras yn dechrau ac yn gorffen mewn awyrgylch gŵyl y tu allan i adeilad hanesyddol Pafiliwn y Grand ar y Promenâd a bydd yn arddangos y gorau oll o'r dref glan y môr.
Bydd y rhedwyr yn mwynhau golygfeydd panoramig ar hyd Newton Bay, Bae Trecco a Sandy Bay wrth iddynt rasio trwy Barc Gwyliau Bae Trecco a Pharc Difyrion Traeth Coney, cyn dechrau ail hanner y 10k.
Bydd cerddoriaeth fyw yn rhoi hwb mawr ei angen i'r rhedwyr trwy galon ardal siopa'r dref ar Stryd Ioan. Wrth iddynt orffen y 10k, bydd y rhedwyr yn mwynhau golygfeydd o Rest Bay cyn y daw goleudy enwog Porthcawl i'r golwg i gychwyn gwib i'r llinell orffen ar hyd y Promenâd.
Ymunodd Healthspan â threfnwyr y digwyddiad, Run 4 Wales, i greu partneriaeth arloesol y llynedd a arweiniodd at 60,000 a mwy o gyfranogwyr mewn digwyddiadau eraill yn cael sampl o'u detholiad heb ei hail o fitaminau a maetholion. Hefyd, helpodd y gymdeithas godi miloedd o bunnoedd at elusen plant Cymru, Tŷ Hafan, yn dilyn menter lwyddiannus #ibeatIwan, a gall y rhedwyr ddisgwyl rhagor o brosiectau cyffrous a chynhyrchion o'r radd flaenaf yn 2019.
Dywedodd Steve Brace, Cyfarwyddwr Ras 10k Porthcawl Healthspan: “Y tro diwethaf i Borthcawl gynnal ras 10k o'r safon uchaf oedd yr holl ffordd yn ôl ym 1994. Dwi'n cofio'r diwrnod hwnnw'n dda; nid yn unig enillais i, ond hynny gydag amser o 31.22!
“Mae'n braf iawn gen i helpu i ddod â rasio ar y stryd yn ôl i'r dref, ac mae disgwyl i Ras 10k Porthcawl Healthspan fod yn ddigwyddiad na fyddwch am ei golli. Bydd y llwybr cyflym yn rhoi profiad bythgofiadwy i redwyr o bob gallu, ac allwn ni ddim aros am ddiwrnod y ras ddydd Sul 7 Gorffennaf.”
Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Profodd Healthspan ei ymrwymiad i helpu rhedwyr o bob gallu i gyrraedd eu llawn botensial trwy ddod yn bartneriaid â'n cyfres o ddigwyddiadau rhedeg yn 2018.
“Ond eleni, bydd brand Healthspan wrth galon blwyddyn gyntaf Ras 10k Porthcawl Healthspan. Cawsom ni adborth anhygoel o gymuned y rhedwyr yng Nghymru a bydd pob rhedwr yn Ras 10k Porthcawl Healthspan yn cael cyfle i samplu eu detholiad arbennig o fitaminau a maetholion. P'un a fydd y rhedwyr yn anelu am yr aur neu'n cymryd rhan mewn digwyddiad Run 4 Wales am y tro cyntaf, mae gan Healthspan gynnyrch ar gyfer unrhyw amcan ffitrwydd.”
Meddai Chris Fisher, Cyfarwyddwr Partneriaethau Marchnata Healthspan, “Mae'n braf iawn gennym ni gefnogi Run 4 Wales gyda ras 10k Porthcawl yr haf hwn ac am lwybr anhygoel i'w redeg. Mae hon yn bartneriaeth bwysig i Healthspan sy'n caniatáu i ni gyfrannu a rhannu ein hymrwymiad i iechyd a llesiant trwy fod yn rhan o ras sy'n annog pob gallu i gyfranogi. Gobeithio y bydd ein detholiad o fitaminau a maetholion o ansawdd uchel yn cyfrannu at nifer o recordiau personol hefyd.” '
Yn dilyn Pencampwriaeth Golff Agored Hŷn ac Eisteddfod yr Urdd, rydym yn hynod o awyddus i sefydlu digwyddiad cyffrous arall a all godi proffil Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a denu ymwelwyr newydd.
Yn ogystal â rhoi hwb i dwristiaeth leol, bydd Ras 10k Porthcawl Healthspan yn rhoi ymdeimlad gwych o gyfrannu i'r rhedwyr wrth iddynt godi arian at nifer o achosion da. Mae'n arbennig o braf cael gweithio gyda Run 4 Wales a'r Olympiad lleol, Steve Brace, ar y prosiect hwn.”
Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio
Bydd rhaid i'r rhedwyr wibio os ydynt am fod yn rhan o bennod newydd o redeg pellter ym Mhorthcawl.Mae modd cofrestru am gyn lleied ag £20, cyn i bob lle ddiflannu, drwy fynd i gwefan gofrestru ras 10k Porthcawl.