Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Anrhydeddu arwyr lleol yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer

Mae rhai o ddinasyddion mwyaf caredig Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u gwobrwyo heddiw fel 'diolch' gan y gymuned leol.

Rhoddwyd sylw arbennig i wirfoddolwyr rhagorol, hyrwyddwyr elusennau, a hoelion wyth eraill cymdogaethau lleol yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer eleni, a drefnwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ymysg yr enillwyr oedd Kat Clatworthy, o Gefn Cribwr, sydd wedi sefydlu menter gymdeithasol er cof am ei thad sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant y celfyddydau creadigol. Mae gan y fenter gymdeithasol Eagles Eleven Productions ffocws penodol ar ddarparu cyfleoedd i bobl sy'n dioddef o afiechydon neu anableddau amrywiol, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i lawer o fywydau pobl.

Merch ysgol Hollie Evans oedd derbynnydd gwobr ieuengaf eleni. Enwebwyd y disgybl 11 oed o Ysgol Gynradd Litchard am wobr er mwyn cydnabod y ffordd y mae'n codi ymwybyddiaeth gadarnhaol o syndrom Down yn ogystal â'i champau elusennol er budd plant â chanser.

Hyrwyddwyr elusennau eraill a gafodd eu gwobrwyo gan y Maer, y Cynghorydd John McCarthy, oedd trigolyn Bryntirion Jean Gorick, sydd wedi bod yn codi arian yn ymroddedig am Apêl y Pabi am bron i 40 o flynyddoedd, a Jason Hemsley o Borthcawl, sydd wedi casglu miloedd ar gyfer Ysgol Heronsbridge a nifer o elusennau.

Mae siopwr David Baynham yn rhywun arall y gellir bob amser dibynnu arno i gefnogi achos da, a derbyniodd ei wobr am y ffyrdd amrywiol y mae'n eu defnyddio i ailgynnau hen werthoedd ysbryd cymuned.

Rhoddwyd diolch i nifer o wirfoddolwyr rhagorol am eu hymdrechion dihunan, gan gynnwys Charlie Baker o Faesteg, sy'n fentor gwirfoddol i blant ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Casglodd John Hornsby ei wobr i gydnabod y ffordd y mae wedi rhoi o'i amser i helpu cyfres o sefydliadau ym Mhorthcawl dros gyfnod o dri degawd, tra tynnwyd sylw arbennig at Christopher Davies am ei waith gwirfoddol yng Nghaerau. Clodforwyd dau drigolyn arall o Gaerau, Graham a Janice Dawe, am eu cyfraniad i Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau.

Casglodd y gwirfoddolwyr sy'n cynnal Clwb Techtivity ym Mhorthcawl wobr hefyd. Mae'r clwb hwn ym Mhorthcawl yn galluogi plant sydd ag anawsterau amrywiol i gyfarfod a chwarae â thechnoleg a meddalwedd sy'n addas ar gyfer eu hanghenion. Mae rhieni'n gwerthfawrogi'r ymdrech y mae gwirfoddolwyr yn ei rhoi i greu amgylchedd gofalgar lle gall plant deimlo eu bod yn cael eu derbyn a’u cefnogi a lle nad ydynt byth yn cael eu beirniadu.

Mae nifer o enillwyr Gwobr Dinasyddiaeth y Maer eleni'n cael effaith fawr ar iechyd pobl ifanc leol ac yn dysgu gwerthoedd cadarnhaol iddynt. Mae Stephen Williams wedi helpu Clwb Achubwyr Bywyd Sger a Pink Bay i fynd o nerth i nerth, tra bo Natalie Davies yn egnioli Cwm Llynfi gyda'i chlwb dawnsio Funk Force. Mae Jeff Copp wedi helpu niferoedd di-ri o bobl leol o bob oedran i ddarganfod a datblygu eu sgiliau yn y crefftau ymladd yng Nghlwb Warriors Kickboxing am fwy nag ugain mlynedd, tra cymeradwywyd cyfraniad Michael Punter i Glwb Rygbi Bracla hefyd.

Bob blwyddyn, gofynnir i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr enwebu'r arwyr lleol hynny sydd wedi rhoi eu cymuned ar y map, neu'n mynd un gam ymhellach yn rheolaidd i wneud gwahaniaeth go iawn trwy eu gwaith gwirfoddol, wrth godi arian am elusennau neu eu dinasyddiaeth gyffredinol dda.

Roedd safon yr enwebiadau yn eithriadol o uchel ac roedd yn benderfyniad anodd i ddewis pwy ddylai dderbyn gwobrau. Roedd yn braf iawn clywed am lwyddiannau'r enillwyr ac roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno gwobrau iddynt a rhoi'r gwerthfawrogiad haeddiannol iddynt.

Mae'r holl unigolion ysbrydoledig hyn yn dangos bod gan fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr lawer iawn i fod yn falch ohono. Llongyfarchiadau i bob un enillydd."

Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd John McCarthy

Chwilio A i Y