Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Annog y cyhoedd i fynegi eu barn am flaenoriaethau gwariant y cyngor

Anogir preswylwyr a busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i i fynegi eu barn am flaenoriaethau gwariant y cyngor wrth i’r awdurdod lunio ei gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus a agorodd ar 19 Rhagfyr yn anelu at gasglu safbwyntiau cymaint o’r cyhoedd â phosibl ar draws y fwrdeistref sirol i helpu i lywio penderfyniadau cyllidebol pwysig.  

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu ystod eang o wasanaethau o ofal nyrsio a phreswyl i’r henoed i ysgolion, parciau, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, gwasanaethau cymdeithasol i blant a llawer mwy. Mae’r cyfanswm net ar gyfer cynnal y gwasanaethau hyn bron yn £460m y flwyddyn.

Er bod hwn yn swm sylweddol, nid yw wedi cynyddu ar yr un raddfa â chwyddiant na’r cynnydd yn y galw am wasanaethau dros y ddeng mlynedd ddiwethaf oherwydd polisi darbodus Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rydym yn gwybod fod cartrefi ar draws ein bwrdeistref sirol yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Mae costau cynyddol yn creu argyfwng costau byw. Mae’r cyngor hwn hefyd yn wynebu ei bwysau cyllideb anoddaf ers sawl blwyddyn. Mae pob awdurdod lleol yn gorfod delio â chynnydd mawr mewn chwyddiant sy’n cynyddu costau a phrisiau ar gyfer ynni, tanwydd a deunyddiau. Ar gyfer 2023/24, rydym yn wynebu pwysau cyllideb sylweddol o leiaf £20m

Bob blwyddyn, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau yn rhagweithiol ein bod yn defnyddio’r arian a’r adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r lefel gywir o wasanaethau y mae ein preswylwyr a’n busnesau eu hangen. Rydym wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd eto eleni, ac mae’n parhau yn amser anodd wrth i ni barhau i wynebu pwysau ariannol ansicr. Er gwaethaf setliad gwell na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd ein cynigion cyllid ar gyfer 2023/24 yn parhau i gynnwys yr angen i wneud arbedion o dros £3.5m, ac nid ydym yn gallu ariannu’r holl bwysau cyllidebol a ddynodwyd.

Mae’r cyngor ar flaen y gad wrth geisio cefnogi’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i’w helpu a’u teuluoedd, ond, wrth i gostau darparu gwasanaethau gynyddu a chyllideb y llywodraeth fethu â chodi’n unol â chwyddiant, rydym yn wynebu dewisiadau anodd.

Cynghorydd Huw David, Arweinydd y Cyngor

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod y Cabinet dros Adnoddau: “Realiti ein sefyllfa bresennol yw nad yw'r arian sydd ar gael i ni yn llwyddo i ysgwyddo’r cynnydd mewn costau a’r cynnydd mewn galw am wasanaethau.

“Mae hyn wedi ein gadael mewn sefyllfa ble rydym angen dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu’r gwasanaethau y mae preswylwyr eu heisiau gyda llai o adnoddau.

“Dyna pam rydym yn gofyn i’r cyhoedd am eu barn ynghylch ein blaenoriaethau ar gyfer 2023-24 a’r blynyddoedd i ddod.

“Mae rhannu eich barn yn ein helpu ni fel Cyngor a Chabinet i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â sut a ble mae’r arian yn cael ei wario yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â sicrhau bod ein gwasanaethau cymunedol yn gweithio’n effeithiol ac effeithlon.

“Rydym wedi cyflwyno platfform newydd o’r enw ‘Engagement HQ’ ar gyfer ymgynghoriad eleni, sydd hefyd yn eich caniatáu chi i rannu eich syniadau a’ch sylwadau ar blatfform byw i eraill eu gweld. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn arolygon barn am feysydd penodol o’r ymgynghoriad.”

Er mwyn rhannu eich safbwyntiau am gyllideb cyngor 2023-24, gallwch ddod o hyd i’r ymgynghoriad ar www.bridgend.gov.uk. Mae’r arolwg yn cau ar 22 Ionawr 2023.  

Cwblhewch yr arolwg ar-lein  neu, er mwyn cael copi caled o’r arolwg, e-bostiwch consultation@bridgend.gov.uk, ffoniwch 01656 643664 neu ysgrifennwch at Swyddfeydd, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y