Annog trigolion i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2022
Poster information
Posted on: Dydd Llun 21 Mawrth 2022
Mae pobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i amddiffyn yr amgylchedd ac ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2022, gan ddangos y gall gweithredoedd bach ar stepen ein drws wneud gwahaniaeth mawr.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda'n gilydd rydym yn galw ar unigolion, aelwydydd, ac ysgolion i dacluso'r strydoedd, parciau a thraethau yn y fwrdeistref sirol rhwng dydd Gwener 25 Mawrth a dydd Sul 10 Ebrill.
Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Caru Cymru - menter fwyaf Cadwch Gymru'n Daclus erioed i gael gwared â sbwriel a gwastraff.
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Ers dechrau'r pandemig mae ein mannau awyr agored wedi bod yn bwysicach nag erioed inni. Bouont yn noddfa yn ystod cyfnod heriol.
Er hyn, mae sbwriel yn dal i fod yn broblem yn ein mannau gwyrdd, ein strydoedd a thraethau ledled Cymru, gan gostio miloedd inni gael gwared orno ond hefyd, yn anffodus, yn difetha ein bywyd gwyllt.
Rydym yn annog pawb ledled Cymru i gymryd rhan yn ein hymgyrch Gwanwyn Glân Cymru eleni gan roi addewid i godi bag neu fwy o sbwriel. Rydym yn gwybod bod cymryd rhan yn yr awyr agored yn dda i'n hiechyd a'n hamgylchedd. Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr.
Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Mae Gwanwyn Glân Cymru eleni yn rhan o'r Great British Spring Clean. Gofynnir i wirfoddolwyr roi addewid o faint o fagiau maen nhw am eu casglu a sawl munud fyddant yn ei dreulio yn glanhau eu hardal leol.
I roi addewid a chymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus.