Annog trigolion Cwm Llynfi i gymryd rhan mewn profi cymunedol
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Mawrth 2021
Mae trigolion Cwm Llynfi yn cael eu hannog i gadw eu teuluoedd, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr yn ddiogel drwy fynychu canolfan brofi leol newydd sbon.
Nid oes rhaid trefnu apwyntiad, ac mae'r ganolfan galw heibio ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Caerau Athletic tan 31 Mawrth, ac mae ar agor rhwng 9.30am-6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Mae profi cymunedol wedi'i ddylunio er mwyn adnabod pobl nad ydynt yn gwybod eu bod yn dioddef o’r coronafeirws, a'u hatal rhag lledaenu'r feirws yn ddiarwybod drwy'r gymuned leol.
Hyd yn hyn, mae mwy na 1,400 o bobl wedi cael prawf negyddol o ganlyniad i brofi cymunedol yn y fwrdeistref sirol, gyda dim ond un person yn profi'n asymptomatig - h.y. roeddynt yn cario Covid-19 heb brofi unrhyw rai o'r symptomau.
Mae profi cymunedol yn ffordd gyflym, effeithlon a rhad ac am ddim i wirio a ydych yn rhoi eich ffrindiau, eich teulu a'ch cymuned mewn perygl yn ddiarwybod. Nid oes rhaid trefnu apwyntiad, ac mae'r profion wedi'u hanelu at bobl 11 oed a hŷn nad ydynt eisoes yn arddangos symptomau o'r feirws, sy'n teimlo'n heini ac yn iach fel arall.
Oherwydd ei bod yn bosib i bobl sydd wedi cael eu brechu gario'r feirws, mae'r profion yn cynnwys trigolion sydd efallai wedi cael prawf o'r blaen, neu sydd wedi cael dos o'r brechlyn. Dylai'r bobl hyn gymryd rhan, gan ei bod yn bosib iddynt gario'r feirws yn ddiarwybod o hyd. Fodd bynnag, nid oes rhaid i bobl sy'n gwarchod eu hunain gymryd rhan.
Yn y canolfannau, bydd staff yn arwain pobl at fythod lle gallant wneud prawf swab. Bydd y swab yn cael ei brosesu ar y safle, a chysylltir â chyfranogwyr o fewn 30 munud gyda'r canlyniadau.
Os bydd canlyniad positif yn cael ei gofnodi, gofynnir i'r unigolyn hunanynysu tra bo trefniadau'n cael eu gwneud iddynt gael prawf cadarnhau a rhagor o gyngor a chymorth.
Ni ddylai unrhyw un sy'n gwneud prawf fwyta am o leiaf 30 munud cyn gwneud y prawf.
I gyflymu'r broses gofrestru, gallwch hefyd lawrlwytho ap cod QR Covid-19 drwy fynd i'r dudalen we Covid-19 ar wefan y GIG. "Bydd hyn yn eich galluogi chi i sganio cod QR yn y ganolfan, ac ni fydd yn rhaid i chi dreulio amser yn llenwi cyfres o ffurflenni.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen profi cymunedol yn www.bridgend.gov.uk