Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Annog pobl ifanc i ddweud Gwneud Eich Marc

Megan Stone, Faer Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Aelod o Senedd Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae pobl ifanc ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i wneud eu marc y mis hwn a dweud eu dweud ynglŷn â'r materion pwysicaf sy'n wynebu pobl ifanc yn lleol ac ar draws y DU.

Mae pleidlais Gwneud Eich Marc Senedd Ieuenctid y DU, sy'n cael ei chynnal tan 30 Tachwedd, yn rhoi cyfle i blant rhwng 11 a 18 oed gynorthwyo i ddewis y pum prif fater sy'n wynebu pobl ifanc.

Yn y gorffennol, mae'r pynciau ar y rhestr fer a ddewiswyd drwy'r bleidlais wedi bod yn destunau trafod yn siambr Tŷ'r Cyffredin gan Aelodau o'r Senedd Ieuenctid.

Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr ei Gyngor Ieuenctid ei hun i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Dywedodd Megan Stone, sy'n Faer Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Aelod o Senedd Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr: "Y bleidlais Gwneud eich Marc hwn yw'r ymgynghoriad ieuenctid mwyaf yn y DU.

"Oherwydd y pandemig Covid-19 presennol eleni, mae'r bleidlais yn cael ei chynnal ar-lein ac mae'n allweddol bod pobl ifanc lleol yn manteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud ynghylch y materion sy'n effeithio arnynt."

Yn cael ei gynnal ers 2011, mae Gwneud Eich Marc wedi cyrraedd miliynau o bobl ifanc gyda mwy na 850,000 o bob cwr o'r wlad yn cymryd rhan yn haf 2019, gan gynnwys 74,000 o Gymru.

Gall unrhyw un rhwng 11 a 18 oed o Ben-y-bont ar Ogwr sydd eisiau cymryd rhan fynd ar dudalen Gwneud Eich Marc ar wefan Wythnos Senedd y DU a phleidleisio dros y pwnc yr ydych chi'n credu sydd bwysicaf ar draws y DU, yn ogystal â phwnc lleol sy'n bwysig i chi.

Mae'r materion yn y bleidlais yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, tlodi plant, llygredd plastig, digartrefedd, mynediad at hyfforddiant a swyddi, a thrais yn y cartref.

Bydd Aelod o'r Senedd Ieuenctid yn dadlau'r pynciau a ddewisir yn y bleidlais ac yn ymgyrchu i ddylanwadu ar Senedd y DU a'u gwleidyddion lleol, i sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn cael eu clywed gan y rheiny sy'n gwneud penderfyniadau.

Chwilio A i Y