Annog nofwyr i osgoi morglawdd Porthcawl tra bo gwaith yn cael ei gwblhau
Poster information
Posted on: Dydd Llun 02 Awst 2021
Mae rhybudd wedi cael ei roi i'r cyhoedd i osgoi Morglawdd y Gorllewin ym Mhorthcawl yr haf hwn, oherwydd y peryglon ychwanegol sy'n bodoli yn sgil deunyddiau sydd wedi'u gosod o dan y dŵr sy'n cael eu defnyddio yn ystod gwaith adeiladu i gryfhau'r morglawdd.
Mae arwyddion wedi cael eu gosod yn amlygu'r peryglon sydd yn yr ardal, ac mae ffensiau wedi cael eu codi i gyfyngu mynediad i Forglawdd y Gorllewin enwog tra bo gwaith yn parhau ar gynllun gwerth £6.4m fydd yn amddiffyn cartrefi a busnesau ym Mhorthcawl rhag llifogydd.
Mae unigolion fyddai fel arfer yn defnyddio'r ardal hon ar gyfer rhesymau hamdden wedi cael eu hannog i'w hosgoi oherwydd y peryglon sy'n bodoli yn sgil y safle adeiladu, yn cynnwys sgaffaldwaith, cerrig a pheryglon eraill all gael eu cuddio ar lanw uchel.
Ar hyn o bryd mae Knights Brown, arbenigwyr adeiladu, yn gweithio ar adnewyddu ac atgyweirio'r morglawdd a godwyd yn yr 19eg ganrif, i sicrhau ei fod yn gallu parhau i wrthsefyll y llanw a thywydd garw'r môr.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn atgoffa pobl i fod yn ddiogel wrth fwynhau'r arfordir yn yr ardal yn ystod yr haf.
Mae'r cyngor yn dweud y dylid osgoi plymio neu neidio oddi ar strwythur, nofio mewn cerrynt cryf, a nofio ar ôl yfed alcohol neu fwyta. Gellir dod o hyd i ragor o awgrymiadau a chyngor ar gadw'n ddiogel yn y dŵr ar wefan y Cyngor.
Rydym yn annog pobl i osgoi morglawdd Porthcawl tra bo gwaith yn cael ei gwblhau. Yn ogystal â'r peryglon arferol sydd ynghlwm â safle adeiladu, mae deunyddiau adeiladu peryglus ar y safle hwn all gael eu cuddio ar lanw uchel.
Rydym eisiau sicrhau bod pawb sy’n teithio i Borthcawl yn flynyddol i fwynhau'r dŵr a’r arfordir yno yn cymryd rhagofalon cyfrifol i warchod eu hunain, gwarchod eraill a sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r ardal yn ddiogel.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau