Annog gofalwyr i ddeall eu hawliau a cheisio cymorth
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 25 Tachwedd 2020
Mae gofalwyr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hatgoffa o'r cymorth sydd ar gael iddynt wrth nesáu at Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ddydd Iau 26 Tachwedd.
Y thema ar gyfer digwyddiad eleni yw Deall Eich Hawliau, gyda'r nod o sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau, ac yn gwybod lle i gael cymorth a chefnogaeth, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am eu hanghenion.
Mae Gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal Panel Gofalwyr Arbenigol ar Zoom am 1pm-2.30pm ar ddydd Iau, i roi cyfle i ofalwyr ddweud eu dweud ar beth sy'n bwysig iddyn nhw.
Dywedodd yr aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol a chymorth cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett: “Mae bron i 18,000 o breswylwyr yn ofalwyr di-dâl i aelodau teuluol, ffrindiau, partneriaid neu gymdogion yn y fwrdeistref sirol, ac nid yw'r cyhoedd yn gweld y straen ddyddiol mae gofalwyr yn ei hwynebu, yn enwedig yn ystod pandemig coronafeirws Covid-19.
“Rwy'n annog gofalwyr i geisio cymorth sydd ar gael iddynt, ac ymuno yn nhrafodaeth y panel er mwyn iddynt gymryd rhan mewn datblygu gwasanaethau, a rhoi llais annibynnol i gyd-ofalwyr, a'r bobl hyn yn eu gofal.”
Mae llinell gymorth 24 awr ar gael i ofalwyr, sy'n eu cefnogi nhw gyda'u dyletswyddau gofalu, felly cysylltwch â 01656 336969.
Gallwch hefyd fynd i wefan Gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont yr Ogwr i ddysgu mwy am gymorth lleol.
I ymuno'r â'r panel ddydd Iau, ffoniwch Helen Davey-Thiel, Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, ar 01656 336969 neu e-bostiwch helen.davey-thiel@ctsew.org.uk