Annog compostio wrth i gasgliadau gwastraff gardd ddod i ben
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 31 Mawrth 2020
Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd a ddarparwyd gan Kier a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gorfod cau ar gyfer 2020.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion bod y contractwr a ddefnyddir i droi'r gwastraff gardd yn gompost o ansawdd uchel wedi rhoi'r gorau i fasnachu oherwydd yr effaith y mae'r argyfwng coronafeirws COVID-19 wedi'i chael ar ei fusnes. Bydd pob cwsmer sy'n rhan o'r cynllun yn derbyn ad-daliad llawn yn awtomatig.
Rwy'n siŵr y bydd hyn yn newyddion siomedig dros ben i lawer o drigolion. Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd bob amser wedi bod yn boblogaidd iawn, ond yn anffodus mae'r contractwr ar gyfer y cynllun wedi cadarnhau na all barhau i weithredu tra bo'r pandemig yn cael effaith.
Mae trefniadau eisoes yn eu lle er mwyn sicrhau y bydd cwsmeriaid y cynllun yn derbyn ad-daliad llawn, ac ni fydd angen cysylltu â'r cyngor na Kier i holi ynglŷn â hyn oherwydd caiff yr arian ei dalu'n awtomatig. Mae'r cyngor yn gobeithio gallu adfer y gwasanaeth rywbryd yn y dyfodol, ac rydym eisoes yn gweithio ochr yn ochr â Kier er mwyn ceisio dod o hyd i gontractwyr eraill posibl. Yn y cyfamser, rydym yn cymell trigolion i gompostio'u gwastraff gardd, ac osgoi ei losgi, gan y gall hyn fod yn niwsans i gymdogion yn ogystal a chael effaith ar ansawdd aer.
Os nad oes gennych le i greu ardal gompostio, gallwch storio’r gwastraff yn sachau gwyrdd y gwasanaeth casglu gwastraff gardd. Gall y gwastraff bydru’n naturiol y tu fewn i'r bagiau cyn cael ei ailddefnyddio fel gwrtaith. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bobl am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod yr adeg anodd a heriol hon. Edrychwn ymlaen at adfer y gwasanaeth arferol cyn gynted â phosibl.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau