Annog cefnogwyr pêl-droed i fwynhau’r Ewros gartref
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021
Mae cefnogwyr pêl-droed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cynghori i chwarae’n saff a mwynhau gemau’r Ewros 2020 gartref.
Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wedi mwynhau llwyddiant ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd eleni, ar ôl gohirio’r gystadleuaeth y llynedd, a byddant yn wynebu Denmarc yn Arena Johan Cruyff Amsterdam ar ddydd Sadwrn Mehefin 26, fel un o’r 16 olaf yn y gystadleuaeth.
Ond mae cefnogwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cynghori i beidio â theithio i'r Iseldiroedd i gefnogi Bale a’r tîm ac i fwynhau’r cyffro i gyd gartref yng Nghymru.
Daw hyn ar ôl i weinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, gyhoeddi na fyddai heddlu’r Iseldiroedd yn “gadael unrhyw gefnogwyr o Gymru i mewn i’r wlad”.
Mae'r Iseldiroedd ar restr oren y DU, sy'n golygu na chynghorir teithio yno, nid yw'r DU na Denmarc ar restr o wledydd diogel yr Iseldiroedd.
Gall cefnogwyr fwynhau’r gêm fawr mewn tafarndai a chlybiau ledled y Fwrdeistref Sirol ac fe'u hatgoffir i ddilyn pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â, neu ledaenu, coronafeirws gan gynnwys archebu byrddau ymlaen llaw a darparu manylion holl aelodau'r grŵp at ddibenion olrhain cysylltiadau.
Mewn datganiad a adleisiwyd gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, anogodd y Farwnes Morgan gefnogwyr i “aros yma a gwylio’r gemau’n ofalus”.
Rydym yn cynghori’n gryf bod cefnogwyr pêl-droed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru ac yn ymatal rhag teithio i’r Iseldiroedd i gefnogi’r tîm.
Rydym ni’n annog cefnogwyr i wylio gêm dydd Sadwrn yng Nghymru ac ystyried y cyfyngiadau coronafeirws presennol.
Rhaid i ni beidio â llaesu dwylo – nid yw'r pandemig ar ben. Os ydych yn dewis cymysgu, gwnewch hynny yn yr awyr agored yn hytrach na dan do lle bynnag y bo modd, a chofiwch mai'r cyfyngiad awyr agored presennol yw 30 o bobl, ac mai chwe pherson o chwe aelwyd wahanol yw'r cyfyngiad dan do.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David