Angen 550 yn fwy o ofalwyr maeth ledled Cymru yn 2020
Poster information
Posted on: Dydd Llun 06 Ionawr 2020
Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi amcangyfrif y bydd angen 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i ymdopi â’r galw eang.
I fynd i’r afael â hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio #20Rheswm, ymgyrch i annog pobl yn eu hardal leol i ystyried maethu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r naw awdurdod lleol sydd wedi dod at ei gilydd i greu #20Rheswm. Mae’r ymgyrch yn defnyddio gofalwyr maeth go iawn a'u cymhellion dros faethu er mwyn rhoi gwybodaeth ac ysbrydoli mwy o deuluoedd i ystyried gofalu am blentyn neu berson ifanc.
Mae’r 20 rheswm dros faethu yn amrywio o wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy roi ymdeimlad o gariad, perthyn a sicrwydd iddynt, i fod yn rhan o’r gwaith o feithrin dyfodol positif a helpu i gadw plentyn yn ei ardal leol er mwyn iddo allu aros yn yr ysgol ac wrth ymyl ei ffrindiau.
Mae angen pob math o ofalwyr maeth ond yn arbennig y rhai a fyddai’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, gofalwyr therapiwtig, gofalwyr seibiant, gofalwyr brys, grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol.
Mae Tammy, 36, yn un o’r gofalwyr maeth sy’n cefnogi’r ymgyrch. Mae wedi bod yn ofalwr maeth ers bron i saith mlynedd. Ar ôl blynyddoedd o geisio dechrau teulu eu hunain, dewisodd Tammy a’i phartner ddilyn trywydd gwahanol drwy faethu.
Dywedodd Tammy: “Roeddwn i’n sylweddoli bod cymaint o blant sydd ag angen cartref cariadus a bod gen i gymaint o gariad roeddwn i am ei roi i blentyn fel ei bod yn gwneud synnwyr mai dyma sut y gallen ni adeiladu ein teulu.
“Mae gen i gysylltiad agos iawn â’r holl blant rydw i wedi’u maethu. Mae un o’n plant maeth yn 17 oed nawr ac nid yw’n byw gyda ni ddim mwy, ond mae’n dal i ddod draw am ginio dydd Sul bob wythnos. Mae'r plant maeth hirdymor sydd gyda ni ar hyn o bryd hyd yn oed yn ein galw ni yn mam a dad, a does dim gwell teimlad na hynny.”
Nid oes llawer o bobl yn gwybod beth yw realiti maethu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n amrywio o gael sgiliau a chymwysterau newydd i newid eich gyrfa a mwynhau’r boddhad sy’n dod yn sgil maethu. Mae llawer o resymau pam mae pobl yn dewis maethu, ac rydym yn gobeithio y gallwn ysbrydoli mwy i gynnig yr achubiaeth y mae ar blant a phobl ifanc ei hangen.
Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Os ydych chi wedi bod yn meddwl am faethu neu os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i: bridgend.gov.uk
Dyma #20Rheswm i faethu yn 2020:
1. Gallwch helpu plentyn sydd wedi cael gorffennol anodd
2. Byddwch yn helpu i greu dyfodol cadarnhaol
3. Gallwch helpu plentyn i gyrraedd ei lawn botensial
4. Mae maethu’n anhygoel ac yn werth chweil
5. Cwrdd â phobl eraill sy’n gofalu – yn union fel chi
6. Gallwch wneud gwahaniaeth yn lleol
7. Dewis pa fath o faethu yw'r gorau i chi
8. Helpu i gadw plentyn yn yr ysgol
9. Datblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau
10. Mi fyddwch chi'n gwneud gwahaniaeth sy'n para am oes
11. Mae’n ffordd wahanol o dyfu eich teulu
12. Dod yn rhan o’n cymuned faethu
13. Byddwch yn esiampl gadarnhaol
14. Mae caredigrwydd yn teimlo’n dda
15. Mae angen cartref ar blant a phobl ifanc leol
16. Byddwch yn helpu i feithrin hyder plentyn
17. Fe allwch chi newid gyrfa
18. Byddwch yn rhoi cyfle mewn bywyd i blentyn
19. Mae maethu yn rhoi persbectif newydd i chi
20. Byddwch yn rhoi ymdeimlad o berthyn i blentyn
Bydd pobl sy'n maethu gyda ni'n cael cynnig hyfforddiant llawn, lwfans ariannol, cefnogaeth a mynediad helaeth at ofalwyr maeth eraill, gan gynnwys grwpiau cefnogi.
Os ydych chi’n credu y gallech chi gynnig cartref cariadus i blant lleol, ewch i www.bridgendfostercare.wales/cy/ i ddarganfod mwy neu gysylltu â’r tîm maethu ar (01656) 642674.