Amlosgfa yn rhoi arian i elusen canser y fron
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Tachwedd 2018
Mae pum mil o bunnoedd, a godwyd drwy ailgylchu metelau a gasglwyd o amlosgiadau yn Amlosgfa Llangrallo, wedi'i roi tuag at elusen canser y fron leol.
Caiff unrhyw fetelau wedi'u hadfer megis eitemau a ddefnyddiwyd yng ngwneuthuriad yr arch a mewnblaniadau orthopedig gan gynnwys cymalau clun a phen-glin, eu hailgylchu gyda chaniatâd perthnasau wrth i'r amlosgfa gymryd rhan yng Nghynllun Cenedlaethol y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) ar gyfer Ailgylchu Metelau.
Mae Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo wedi rhoi’r arian a godwyd drwy’r cynllun ar hyn o brydi'r apêl 'Giving to Pink' sydd â'r nod o greu uned gofal y fron arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae'n wych bod yr arian a gasglwyd o'r broses hon yn mynd at achos mor deilwng, yn helpu i achub bywydau pobl eraill.
Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau
Mae'r amlosgfa wedi bod yn rhan o'r cynllun ers 2005 ac wedi rhoi’r holl arian a godwyd i elusennau profedigaeth lleol yn y gorffennol.