Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Amlosgfa Llangrallo wedi codi £15,000 ar gyfer Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Amlosgfa Llangrallo wedi rhoi £15,000 i Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl cael eu henwebu fel ei helusen ddewisol.

Dewiswyd yr elusen gan Gyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo, sy'n cynnwys cynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i gydnabod eu cefnogaeth sylweddol i blant ac oedolion drwy gyfnodau anodd.

Rydym yn falch iawn o’r rhodd hael iawn gan Amlosgfa Llangrallo. Bydd yn sicr yn cael effaith fawr ac yn gymorth i’n cangen.

Llefarydd ar gyfer Samariaid Llangrallo

Sefydlwyd Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr yn 1972, ac mae’n un o 10 cangen leol ledled Cymru sy'n gweithio’n galed i gefnogi eu cymunedau a gwneud gwaith allgymorth hanfodol mewn carchardai, ysgolion, ysbytai, gwyliau a digwyddiadau, a gyda phartneriaid, er mwyn cefnogi’r bobl sydd fwyaf bregus.

Mae’r rhodd hon gan Amlosgfa Llangrallo yn chwarae rhan fawr o ran sicrhau dyfodol Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae cangen Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi ein cymuned leol ers 45 o flynyddoedd, ac mae’n wasanaeth pwysig i nifer yn yr ardal, yn enwedig yn ystod cyfnod ansicr y pandemig.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Gall unrhyw un ffonio’r Samariaid ar 116 123 am ddim, ddydd neu nos, hyd yn oed ffôn heb gredyd. Os hoffech gymorth emosiynol yng Nghymru, mae ganddynt Llinell Ffôn Gymraeg am ddim, 0808 164 0123 (ar agor bob dydd 7pm-11pm). Ni fydd y rhifau’n ymddangos ar eich bil ffôn. Fel arall, gallwch ebostio jo@samaritans.org neu daro golwg ar www.samaritans.org.

Chwilio A i Y