Amddiffynfeydd môr newydd sbon Porthcawl yn datblygu'n dda
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 17 Awst 2018
Gwnaed cynnydd mawr gydag amddiffynfeydd môr newydd sbon Porthcawl yn ystod tywydd poeth yr haf, diolch i'r tywydd braf a'r moroedd tawel.
Mae mwy na 116 o'r 185 o derasau newydd wedi'u gosod yn eu lle ac mae'r prosiect sydd werth £3 miliwn yn mynd rhagddo'n dda yn ôl yr amserlen.
Gyda'r bwriad o amddiffyn 260 o adeiladau a busnesau glan y môr rhag llifogydd ac erydiad arfordirol, mae'r fenter £3 miliwn yn trawsnewid amddiffynfeydd môr sy'n heneiddio ar 'draeth tarmac' enwog y dref.
Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd wyneb caled o liw tywod yn cael ei ychwanegu at y terasau i greu golwg ddeniadol newydd i'r lleoliad poblogaidd.
Bydd trigolion ac ymwelwyr yn gallu darganfod mwy a gweld cynlluniau, ffotograffau ac argraff artist o'r cynllun wedi'i gwblhau mewn sesiwn galw heibio ym Mhafiliwn y Grand ddydd Mawrth 21 Awst.
Bydd y sesiwn, sydd wedi'i drefnu gan y contractwr Alun Griffiths, yn cael ei gynnal rhwng 4pm a 7pm a bydd yn cynnwys cyfle i holi cwestiynau am gamau nesaf y prosiect peirianyddol morwrol cymhleth.
Bydd hefyd yn cynnwys manylion y trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer yr Ŵyl Elvis flynyddol ym mis Medi.
Mae llawer iawn o waith cymhleth i'w wneud eto cyn bydd y prosiect yn cael ei gwblhau, ond mae'r gwaith ar amddiffynfeydd môr newydd yn mynd rhagddynt yn dda iawn.
Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gefnogi'r fenter, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dod i'r sesiwn wybodaeth ar 21 Awst i weld drostynt eu hunain sut mae'r amddiffynfeydd môr newydd yn datblygu
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am y prosiect yn community.alungriffiths.co.uk