Allech chi newid bywyd unigolyn ifanc am byth?
Poster information
Posted on: Dydd Llun 13 Mai 2019
Heddiw yw diwrnod lansio Pythefnos Gofal Maeth 2019 (13 - 26 Mai), sef ymgyrch a gynhelir bob blwyddyn i dynnu sylw at yr angen am fwy o bobl i ddod ymlaen ac ystyried maethu.
Mae tîm gofal maeth y cyngor yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y ddwy wythnos hyn i annog pobl i ddod atynt am sgwrs am yr amrywiol ddewisiadau sydd gan faethu i'w cynnig, gan gynnwys gofal maeth cyffredinol, bod yn rhywun sy'n darparu llety â chymorth neu rywun sy’n darparu lleoliad pontio.
Rydyn ni'n credu bod unrhyw un yn gallu newid bywyd, ac rydym yn awyddus i gyfarfod â thri o bobl gyffredin sy’n gwneud pethau rhyfeddol i newid bywydau a dyfodol pobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Becky Walsh, sydd wedi bod yn ofalwr maeth gyda Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr ers 2006: “Fe ddechreues i faethu pan oeddwn i’n 21 oed ond roeddwn i'n gwybod fy mod i am faethu er pan oeddwn i’n ifanc iawn.
“Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gofalu am nifer fawr o blant gwahanol, ac mae bob un plentyn sy’n dod dros y trothwy wedi dysgu rhywbeth newydd i mi. Mae rhywun yn datblygu fel person ac yn dysgu sgiliau newydd, ac mae hynny’n eich cryfhau chi fel person.”
Dywedodd Will, sydd wedi bod yn ofalwr maeth gyda Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr ers 2009, ar ôl gyrfa hir fel athro ysgol: “Ar ôl gweithio gyda phobl ifanc am sawl blwyddyn, fe ddaeth yn amlwg i mi efallai y gallwn i wneud cyfraniad mwy sylweddol drwy fod yn ofalwr maeth. Ac rydw i'n gobeithio’n fawr fy mod i wedi gwneud hynny. Rydw i wirioneddol wedi mwynhau'r broses ac mae wedi rhoi boddhad mawr i mi.”
Yn ddiweddar, mae Will wedi hyfforddi i fod yn ofalwr cyfnod pontio: “Rydw i’n credu bod gofal pontio yn mynd i fod yn agwedd bwysig iawn ar y gwaith, oherwydd yn aml iawn mae gan y plant sy'n dod i mewn fwy o anghenion nag erioed o'r blaen, ac mae cymhlethdod yr anghenion hynny yn galw am ymateb mwy soffistigedig.”
Mae'r cyngor hefyd yn tynnu sylw at yr angen am ddarparwyr llety â chymorth. Dywedodd Kay, sydd wedi bod yn ddarparwr llety â chymorth ers nifer o flynyddoedd: “Roeddwn i’n byw ar fy mhen fy hun yn y tŷ tair llofft yma oedd yn llawer rhy fawr i mi a minnau wedi arfer â chael teulu yno. Doedd o ddim yn ymddangos yn iawn rhywsut.
“Roeddwn i’n sgwrsio â ffrind i mi sy'n maethu - roeddwn i'n gweithio llawn-amser, felly doeddwn i ddim yn gallu maethu - ond wedyn, fe soniodd hi am lety â chymorth. Doeddwn i erioed wedi clywed am y peth o'r blaen. Felly, fe wnes i ambell i alwad ffôn ac roedd tîm Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn barod iawn i helpu.
“Rydw i nawr yn gofalu am bobl ifanc rhwng 18 a 21 oed am wahanol gyfnodau o amser. Maen nhw’n dod yma pan maen nhw’n gadael gofal neu ofal maeth, cyn iddyn nhw ddechrau byw'n annibynnol. Yn bennaf, rydw i'n eu helpu nhw i gyllidebu, i lanhau ac i goginio. Rydw i’n cael pleser mawr o’i wneud ac mae’n rhoi boddhad mawr i mi wybod fy mod i wedi helpu rhywun ar ddechrau eu taith trwy fywyd.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar: “Mae clywed straeon rhai o’n gofalwyr maeth ardderchog yn ysbrydoliaeth. Ond, mae angen mwy o bobl yr un fath â Becky, Will a Kay arnom i gynnig eu hunain ac ystyried maethu neu gefnogi pobl ifanc yn ein bwrdeistref sirol.
“Mae pobl o bob math a chefndir yn dod yn ofalwyr maeth, yr un fath yn union â'r plant y mae angen gofal arnynt. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i siarad â thîm Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr am gyngor cyfeillgar a chyfrinachol.
“Mae gofalwyr maeth newydd yn cael amrediad eang o gymorth parhaus gan ofalwyr maeth profiadol a thîm Gofal Maeth cymwys a gwybodus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ychwanegodd y Cynghorydd White: “Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yw teulu mwyaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r sgiliau a’r cymeriad sy'n ofynnol, ymunwch â’n teulu ni i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant y mae hen angen hynny arnynt.”
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am faethu, dewch draw am sgwrs ag aelod o'r tîm maethu a rhywun sy’n maethu ar hyn o bryd yng nghanol tref Maesteg ar ddydd Gwener 24 Mai ac yng nghanol tref Porthcawl ar ddydd Mawrth 14 Mai.
Neu, ffoniwch y tîm ar 01656 642674, anfonwch e-bost at bridgendfostercare@bridgend.gov.uk neu llenwch ffurflen ymholiadau yn www.bridgendfostercare.wales/cy
Yr elusen maethu ‘Y Rhwydwaith Maethu’ sy'n trefnu'r Pythefnos Gofal Maeth. I ddysgu mwy am yr ymgyrch flynyddol, defnyddiwch yr hashnod #FCF19 a #changeafuture ar y cyfryngau cymdeithasol.