Aldi yn cael ei gadarnhau fel y cynigydd a ffafrir ar gyfer siop fwyd newydd ym Mhorthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 19 Ionawr 2021
Yn dilyn proses ddethol gadarn, mae Aldi Stores Ltd wedi cael ei gadarnhau fel y cynigydd a ffafrir ar gyfer siop fwyd newydd sbon ym Mhorthcawl.
Derbyniwyd cyfanswm o bum cais ar gyfer y siop newydd, a fydd yn cael ei datblygu ar safle dwy erw o fewn ardal Llyn Halen ac a adwaenir yn lleol fel y Green.
Roedd gofyn i gynigwyr gyflwyno dyluniadau pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer safleoedd a allai weithredu fel 'adeiladau porth' wrth ymgorffori trefniadau mynediad a theithio llesol priodol.
Yn ogystal â rhoi mwy o ddewis a mwy o hyblygrwydd i breswylwyr, bwriad y datblygiad yw rhyddhau arian a fydd yn cael ei ailfuddsoddi mewn gwelliannau seilwaith lleol ym Mhorthcawl a chamau pellach o'r cynlluniau adfywio.
Dyma newyddion rhagorol a cham mawr arall ymlaen yn y cynlluniau adfywio ar gyfer Porthcawl. Mae'r datblygiad hwn yn mynd i greu swyddi newydd, darparu cyfleusterau newydd, a chyflwyno gwelliannau tirlunio a meysydd cyhoeddus newydd.
Rwyf wedi cymharu'r camau adfywio amrywiol â phos jig-so mawr yn y gorffennol, gyda phob darn yn ffitio'n ddel gyda'r hyn a wnaed yn flaenorol, yn barod i ategu'r hyn sydd eto i ddod. Yn yr achos hwn, bydd y siop fwyd yn gweithredu fel catalydd drwy ddatgloi cronfeydd a fydd yn cael eu hailfuddsoddi i sefydlu seilwaith newydd angenrheidiol yn yr ardal glan y môr, cyfleusterau maes parcio gwell ym maes parcio Hillsboro a llawer mwy.
Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan ddatblygiadau preswyl, hamdden, manwerthu a masnachol newydd sbon yn Llyn Halen, ynghyd â man gwyrdd agored a chyfleusterau teithio llesol newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at pan fydd y broses hon wedi gorffen, a gellir datgelu'r cynlluniau a'r darluniadau yn dangos sut fydd y siop newydd yn edrych, yn llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Rwy'n credu y bydd pobl yn hapus iawn pan fyddant yn gweld beth sydd gan Aldi wedi'i gynllunio ar gyfer Porthcawl.
"Roedd ein briff datblygu yn galw am ddyluniad adeilad cynaliadwy, arloesol yn defnyddio deunyddiau o'r ansawdd uchaf i gymryd i ystyriaeth treftadaeth a lleoliad Porthcawl wrth edrych tua dyheadau adfywio'r dyfodol.
"Rydym eisiau iddo sefydlu porth gwell, unigryw i mewn i Borthcawl gyda gwelliannau tirlunio o ansawdd uchel, meysydd cyhoeddus newydd a mwy o le parcio sy'n gallu cefnogi teithiau i ganol y dref.
"Ar ben hynny, rydym eisiau iddo ddarparu llwybrau cerdded a beicio gwell, a helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr rhwng canol y dref a Phromenâd y Dwyrain, sy'n mynd i gael ei adfywio hefyd.
"Rwy'n credu bod y cynnig a ffafrir yn cyflawni popeth yr oeddem eisiau iddo, a mwy.
"Bydd y dyluniadau ynghyd â'r manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ar ôl i'r contract gael ei gwblhau, felly cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn fuan."