Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ailgylchwch eich gwastraff bwyd a'i droi yn rhywbeth defnyddiol

Cymru yw'r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ond mae Ailgylchu dros Gymru yn credu y gallwn fod yn rhif un cyn hir trwy wneud pawb yn fwy ymwybodol o'r eitemau y gallwn eu hailgylchu.

Er mwyn cyflawni eu targed, mae Ailgylchu dros Gymru yn ymuno gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros yr Wythnos Ailgylchu hon (24 – 30 Medi) i hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu bwyd.

Llynedd, llwyddodd trigolion lleol i ailgylchu digon o wastraff bwyd i gynhyrchu digon o rym i redeg ysgol gyffredin am bedair blynedd, neu i redeg Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl am 11.5 blynedd!

Felly, mae'r rhan fwyaf o bobl leol yn ailgylchwyr bwyd brwd, ond mae dal modd gwneud mwy.

Ar gyfartaledd, mae 18% o wastraff a ddarganfyddir mewn bin cyffredin ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wastraff bwyd a allai fod wedi cael ei ailgylchu'n rhywbeth defnyddiol yn lle.

Mae'r holl wastraff bwyd a gesglir o gartrefi lleol yn cael ei gymryd i'r ganolfan treulio anerobig Agrivert yn Stormy Down lle caiff ei drawsnewid i drydan er mwyn rhedeg ein cartrefi a'n cymunedau lleol.

Mae hefyd yn cynhyrchu gwrtaith, a ellir ei ddefnyddio ar gyfer ffermio. Ar y llaw arall, os bydd gwastraff bwyd yn mynd i safle tirlenwi yna mae'n pydru ac yn cynhyrchu methan, nwy tŷ gwydr niweidiol.

Yn ogystal â sbarion, rydym oll yn cynhyrchu rhywfaint o wastraff bwyd anochel ni ellir ei fwyta, ond fe ellir ei ailgylchu, megis bagiau te, crafion ffrwythau a llysiau, plisg wyau, ac esgyrn cig.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

"Gellir gosod y rhain i gyd yn eich cadi bwyd brown, yn ogystal â bwyd anifeiliaid anwes. Peidiwch ag anghofio i fynd i mewn i gefn eich oergell i nôl unrhyw fwyd sydd wedi mynd dros y dyddiad gan fod modd ailgylchu hwn hefyd – tynnwch unrhyw becynnau i ffwrdd yn gyntaf ac ailgylchwch hwnnw yn ogystal."

Dywedodd Catrin Palfrey, o Ailgylchu dros Gymru: "Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu'u bwyd, sy'n wych, ond mae'n amlwg fod llawer mwy y gallwn ei wneud. Mae pob peth unigol yr ydym yn ei ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth mawr i faint o ynni adnewyddadwy y gallwn ei greu i redeg cartrefi a chymunedau yn y sir, gan helpu Cymru i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu."

Mae'n hawdd ailgylchu'ch gwastraff bwyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Defnyddiwch un o'r bagiau gwyrdd i leinio'ch cadi cegin brown bach a rhowch eich gwastraff bwyd ynddo. Pan fydd yn llawn, clymwch y bag a rhowch ef yn eich cadi ailgylchu bwyd mwy y tu allan yn barod ar gyfer eich casgliad wythnosol. Cofiwch fod gan y cadi allanol dolen sy'n cloi er mwyn cadw allan arogleuon a phlâu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Williams: “Mae buddiannau amgylcheddol ailgylchu yn wych, ond mae mantais syml iawn arall sy’n codi o ddefnyddio cadi bwyd… os nad ydych yn rhoi gwastraff bwyd yn eich bagiau bin, yna ni fydd arogleuon a bydd llai o siawns y bydd gwylanod ac anifeiliaid eraill yn eu rhwygo.”

Gall unrhyw drigolion nad oes ganddynt eisoes gadi ailgylchu bwyd wneud cais ar-lein am un ar https://bridgend.kier.co.uk/ neu drwy ffonio 01656 643643 neu e-bostio recyclingandwaste@bridgend.gov.uk

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu bwyd, ewch i wefan Ailgylchu dros Gymru ar http://www.recycleforwales.org.uk/cy/bwyd

Rhagor o ystadegau ynglŷn ag ailgylchu bwyd

  • Mae dros 70% o bobl yng Nghymru yn dweud nawr eu bod yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
  • Gallai ailgylchu gwerth un cadi o wastraff bwyd redeg tŷ cyffredin am dros awr.
  • Petai pawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu un croen banana, byddai'n cynhyrchu digon o ynni i redeg Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl am bron bedwar diwrnod.
  • Mae ailgylchu chwe bag te yn cynhyrchu digon o ynni i ferwi tegell ar gyfer disgled arall!
  • Llynedd, ailgylchodd ganolfan treulio anerobig Agrivert yn Stormy Down ddigon o wastraff bwyd er mwyn rhedeg tua 6,000 o gartrefi am flwyddyn gyfan.

Chwilio A i Y