Ailgylchu dros y Nadolig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2019
Wrth i'r Nadolig agosáu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau pa newidiadau a wneir i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros yr ŵyl.
Bydd casgliadau ar Noswyl Nadolig, ond nid ar Ddiwrnod Nadolig nac ar Ŵyl San Steffan. Bydd popeth yn cael ei gasglu ddau ddiwrnod yn hwyrach nag arfer ar gyfer gweddill yr wythnos honno, gan gynnwys ddydd Sul 29 Rhagfyr.
Bydd deunydd gwastraff ac ailgylchu yn cael ei gasglu ar Nos Galan, ond nid ar Ddiwrnod Calan. Bydd y casgliadau un diwrnod yn ddiweddarach hyd at ddydd Sadwrn 4 Ionawr, gyda'r holl gasgliadau'n dychwelyd i'r patrwm arferol ddydd Llun 6 Ionawr.
Mae cartrefi fel arfer yn cynhyrchu mwy o wastraff dros y Nadolig, a thra gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o hyn - e.e. cardiau Nadolig a phecynnu cardbord - bydd angen cael gwared ar rai eitemau, fel papur lapio a lapio swigod, fel gwastraff.
Er mwyn cynorthwyo â hyn, bydd pob cartref ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu rhoi un bag bin ychwanegol ar gyfer eu casgliad sbwriel cyntaf ar ôl y Nadolig.
Ar hyn o bryd, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r ail ardal orau yng Nghymru o ran y modd mae'n trin ei gwastraff, a hoffwn ddiolch i'r preswylwyr am eu hymdrechion anhygoel. Rydyn ni’n llacio’r rheol dau fag arferol ar gyfer y casgliad cyntaf ar ôl diwrnod Nadolig i helpu cartrefi i ailgylchu cymaint â phosibl o’u gwastraff Nadolig.
Y prif eitemau Nadoligaidd na ellir eu hailgylchu yw papur lapio, plastig du, deunydd lapio seloffen, deunydd lapio swigod a pholystyren. Gellir ailgylchu bron popeth arall, gan gynnwys amlenni papur sy'n mynd i’ch sach wen, cardiau Nadolig sy'n mynd i’ch sach oren, ffoil sy'n mynd i’ch sach las, a'ch holl groen llysiau a gwastraff bwyd arall, gan gynnwys y carcas twrci, a all fynd i'ch cynhwysydd bwyd brown.
Gallwch hyd yn oed ailgylchu coed Nadolig go iawn drwy fynd â nhw i un o'r canolfannau ailgylchu cymunedol lleol, ac os ydych chi'n clirio cyn y Nadolig, peidiwch ag anghofio fod modd rhoi eitemau diangen sydd mewn cyflwr da i'n siop ailddefnyddio sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Cymunedol Maesteg. Mae’r siop yn derbyn unrhyw beth sydd â photensial i'w ailddefnyddio, ac mae’r arian a godir yn cael ei fuddsoddi’n lleol mewn mentrau cymdeithasol pwysig.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Hywel Williams
Mwy o nodiadau atgoffa am ailgylchu dros y Nadolig:
- Bydd y tair canolfan ailgylchu gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont wedi cau ar Ddiwrnod Nadolig, Gŵyl San Steffan a Diwrnod Calan.
- Mae modd ailgylchu eitemau trydanol bach, fel peiriannau sychu gwallt, drwy’r casgliadau ar ymyl y ffordd.
- Gellir ailgylchu dillad o ymyl y ffordd drwy roi eitemau mewn bag siopa plastig bach a'u rhoi wrth ymyl eich cynwysyddion ailgylchu ar eich diwrnod casglu.
- Mae’r ffoil ar geiniogau siocled a Sion Corn siocled yn gallu cael eu hailgylchu yn eich bagiau ailgylchu glas.
- Ailgylchwch eich coed Nadolig go iawn yn ein Canolfannau Ailgylchu Cymunedol.
I gael gwybod mwy am ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i www.recycleforbridgend.wales/cymraeg