Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg yn Sicrhau Cyllid Treftadaeth y Loteri
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 05 Mehefin 2018
Mae cam arwyddocaol arall wedi'i gymryd tuag at ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yn llwyddiannus wrth sicrhau cymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae cyllid datblygu o £96,800 wedi'i ddyfarnu i'r prosiect fel y gellir cwblhau ystod o waith paratoi pwysig ar gyfer y cais hanfodol nesaf am gyllid y bydd angen ei gyflwyno yn gynnar yn 2019.
Yn ogystal â gwaith pellach i sefydlogi cyflwr presennol strwythur yr adeilad, gan gofnodi ei nodweddion hanesyddol a datblygu'r dyluniad, bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal ystod o weithgareddau ymgysylltu â'r gymuned i gipio treftadaeth y Neuadd trwy lygaid pobl Cwm Llynfi.
Mae cyllid Treftadaeth y Loteri yn hollbwysig wrth helpu i gefnogi cynlluniau i ddiogelu'r adeilad eiconig hwn 137 oed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan wneud gwaith hanfodol i adeiladwaith yr adeilad a chreu mannau cymunedol bywiog i bawb eu mwynhau.
Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig:
"Rydyn ni wrth ein bodd bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cydnabod ein gweledigaeth ar gyfer y Neuadd ac wedi gofyn i ni ddatblygu ein cais am gyllid i'r cam nesaf, sy'n gam cadarnhaol iawn ymlaen. Dros y misoedd nesaf, byddwn ni'n cynnal arolygon ac ymchwiliadau manwl pellach o'r adeilad a byddwn ni'n cryfhau'r cynlluniau pensaernïol hyd at lefel 'dyluniad technegol'. Unwaith eto, byddwn ni'n gweithio ochr yn ochr â'r grwpiau defnyddwyr sydd wedi bod mor gefnogol hyd yn hyn.
"Byddwn ni hefyd yn gweithio â grwpiau ac unigolion lleol i ddathlu a rhannu treftadaeth, hanes, straeon ac atgofion Maesteg trwy ddyluniad mewnol yr adeilad. Mae'n gyffrous i ni glywed y profiadau, hanesion ac atgofion personol sy'n gwneud Neuadd y Dref Maesteg yn rhan bwysig ac annwyl o fywydau pobl, fel y gallwn ni wehyddu'r rhain i mewn i'r cynlluniau ar gyfer y lleoliad. Gwyliwch am y prosiect ‘Ein Neuadd, Ein Stori’ / ‘Our Hall, Our Story’ yr haf yma."
Mae angen cyllid o wahanol ffynonellau ar brosiect o'r raddfa hon ac rydyn ni wrth ein bodd bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi darparu'r cymoth hwn fel y gallwn ni symud ymlaen i'r garreg filltir nesaf yn y gwaith o gwblhau ailddatblygiad mawr o Neuadd y Dref Maesteg.
Fe fydd llawer o weithgarwch yn neuadd y dref ac o'i chwmpasyn ystod y misoedd nesaf, ac fe fyddwn ni'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r gymuned leol ar bob cam o'r ffordd i arddangos y cynlluniau ar gyfer y prosiect cyffrous hwn ac ateb unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw.
Dechreuodd y cam cyntaf o adfywio ym Maesteg yn 2003, ac roedd ein buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd yn cynnwys creu sgwâr marchnad awyr agored yn 2013. Byddai ailddatblygu neuadd y dref yn cwblhau adfywiad canol y dref, gan ein galluogi i wireddu potensial llawn ein buddsoddiadau cynharach.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio