Ail lansio ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth arbenigol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 21 Mawrth 2022
Mae tîm maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ail-lansio ei ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth arbenigol mewn 'rôl heriol ond gwerth chweil', gyda digonedd o gymorth ar gael bob cam o'r ffordd.
Mae'r ymgyrch sy'n cael ei hysbysebu ar Sky, ar y radio, ar gyfryngau cymdeithasol, ar Google ac mewn print, yn targedu pobl a fyddai'n fodlon gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiadau trawmatig yn ystod plentyndod ac sydd angen cymorth i addasu i fyw mewn amgylchedd teulu.
Mae'r cynllun Gofalwyr Pontio yn cynnwys rôl â thâl, sy'n cynnwys cynnal lleoliadau tymor byr (hyd at 24 wythnos ar gyfartaledd) lle fydd y gofalwr yn magu perthynas un i un gyda'r unigolyn ifanc, gan ddangos ymrwymiad, amynedd ac ymroddiad i'w helpu i oresgyn rhwystrau a all fod wedi arwain at chwalu trefniadau byw y gorffennol.
Gall hyn gynnwys helpu pobl ifanc i ddeall eu hunain, a sut all eu teimladau effeithio ar eu hymddygiad. Mae dod o hyd i ffyrdd o gynyddu ymdeimlad o berthyn a galluogi'r unigolyn ifanc i ddysgu sut i fyw mewn amgylchedd teuluol yn allweddol i drosglwyddo'n llwyddiannus.
Ni fyddech yn gweithio ar eich pen eich hun yn y rôl hon. Mae pecyn pwrpasol o gymorth ar waith i alluogi'r plentyn i reoli ei emosiynau, a throsglwyddo i gartref tymor hir sefydlog. Gallai hynny olygu symud i leoliad maethu hirdymor, dychwelyd at deulu neu berthnasau biolegol neu amgylchedd byw'n annibynnol.
Bydd gofyn i Ofalwyr Pontio weithio gyda gweithwyr proffesiynol aml-ddisgyblaethol, a chael mentoriaeth ac arweiniad ychwanegol gan aelwyd gofalwyr profiadol a gwybodus.
Mae’r tîm yn awyddus i recriwtio pobl sydd â'r potensial i ddeall neu a fyddai'n fodlon ymgymryd â hyfforddiant i'w galluogi i ddeall yr effaith lawn mae trawma yn ei chael ar blentyn.
Byddai’r rôl yn addas i'r rheiny sydd â phrofiad ym meysydd gofal plant, gofal cymdeithasol, plismona, addysgu, gwaith ieuenctid neu ofal maeth blaenorol. Bydd y gofalwyr hyn yn helpu i oresgyn rhwystrau a symud unigolyn ifanc ymlaen i leoliad hirdymor.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn wydn, ac yn gallu cynnal lleoliad hyd yn oed o dan amgylchiadau anffafriol neu eithafol, ac mewn sefyllfaoedd o argyfwng, gyda chymorth gan dîm.
Bydd disgwyl i ofalwyr pontio fagu cysylltiadau gwerthfawr a chadarn gyda phlentyn neu unigolyn ifanc, a meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i gefnogi a gweithredu 'strategaethau rheoli ymddygiad wedi'u llywio gan drawma.'
Oherwydd natur y rôl, bydd y tîm maethu yn sicrhau bod pob gofalwr pontio yn cael hyfforddiant helaeth cyn iddo gefnogi unigolyn ifanc. Mae gofalwyr pontio yn rhan o dîm gofal maeth pwrpasol - maent yn gweithio ochr yn ochr â dadansoddwyr ymddygiad, staff hybiau gofal plant, y timau lleoliadau maethu a gweithwyr allgymorth llesiant.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y Cynllun Gofalwyr Pontio, ewch i: https://bridgend.fosterwales.gov.wales neu ffoniwch: 01443 425 007.