Ail ddosiau o’r brechlyn ar gael nawr mewn canolfannau galw heibio
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 10 Medi 2021
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi y gall pobl sy’n barod i gael eu hail frechlyn Covid-19 alw heibio mewn unrhyw ganolfan frechu gymunedol i gael eu hail ddos heb orfod gwneud apwyntiad.
Mae’r cynnig hwn ar gael i bobl sydd wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn wyth wythnos neu fwy yn ôl, ac mae’n berthnasol i bob canolfan frechu gymunedol yn ardal y bwrdd iechyd.
Mae hyn yn cynnwys Ravens Court yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AP) lle mae apwyntiadau galw heibio ar gael rhwng 9.15am a 4.30pm. Mae manylion canolfannau brechu eraill yn y rhanbarth ar gael ar wefan y bwrdd iechyd sy'n cael ei diweddaru'n wythnosol.
Bydd brechlyn Pfizer yn cael ei gynnig o ddydd Llun i ddydd Iau, a bydd brechlyn Oxford AstraZeneca a Pfizer yn cael eu cynnig ar ddydd Gwener.
Mae cyfanswm o 100,000 o bobl ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu brechu’n llawn yn erbyn y coronafeirws, gyda mwy na 205,000 o ddosiau (cyntaf ac ail) wedi’u rhoi i gyd.
Gall unrhyw un 16 oed neu hŷn sydd heb gael dos cyntaf o’r brechiad alw heibio Canolfan Frechu Covid-19 i gael eu brechu. Nid oes angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw, mae apwyntiadau galw heibio ar gael mewn canolfannau brechu cymunedol yn y rhanbarth.
Dylai unrhyw un sydd eisiau manteisio ar yr apwyntiadau galw heibio ddod â phrawf adnabod gyda nhw, megis pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustod i brofi eu cyfeiriad.
Rydym yn falch o weld fod y cyfle i gael eich ail ddos wedi’i wneud yn haws i’r rheiny sy’n hen barod i gael eu hail frechiad.
Roedd cyrraedd y marc o 100,000 yr wythnos ddiwethaf yn gyflawniad gwych i’r fwrdeistref sirol, ac yn gam enfawr yn y frwydr hon yn erbyn y pandemig parhaus.
Rwyf eisiau annog pawb sydd heb gael eu hail ddos ac i bawb sydd dros 16 oed, nad ydynt wedi cael dos cyntaf, i fynychu Canolfan Frechu Covid-19 i'w dderbyn. Mae cael y brechiad yn sicrhau eich bod chi, eich teulu a'ch ffrindiau a'r gymuned ehangach yn cael eich amddiffyn rhag y feirws cymaint â phosib.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi cyhoeddi o heddiw (dydd Gwener) na fydd pecynnau profi llif unffordd ar gael i'w casglu o safleoedd profi symudol mwyach, a bydd angen naill ai eu harchebu ar-lein i'w danfon i'r cartref neu eu casglu o fferyllfa sy'n cymryd rhan.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion ynglŷn â sut y gallwch dderbyn pecyn profi am ddim, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae profion symudol am ddim i unrhyw un sy'n profi symptomau Covid-19 yn parhau ar gael ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda safleoedd wedi'u lleoli ar hyn o bryd ym Mhorthcawl, Coety a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd profion ar gael yng Nghlwb Rygbi Porthcawl (CF36 3DH) o 9am i 5pm drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Ar y safle hwn mae cyfleuster profi gyrru drwodd, y mae'n rhaid archebu ymlaen llaw i'w ddefnyddio, ac opsiwn galw heibio nad oes rhaid archebu ar ei gyfer.
Mae cyfleuster profi gyrru drwodd hefyd ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Llidiart a Choety (CF31 1PA) o 9am-5pm, ac yn y cyfleuster galw heibio ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) rhwng 8am-8pm - rhaid archebu ar gyfer y ddau safle yma.
Gallwch drefnu apwyntiadau drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119 (18001119 i bobl â nam ar y clyw neu leferydd).