Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adnewyddiad gwerth £400,000 yn dechrau yng Nghanolfan Hamdden Maesteg

Mae gwaith adnewyddu gwerth £400,000 yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg wedi dechrau. Bydd y gwaith yn gwella hygyrchedd yn ogystal â gwneud daioni i iechyd corfforol ac iechyd meddwl preswylwyr ar draws y gymuned.

Mae’r prosiect hwn yn bosib diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Halo Leisure a Chwaraeon Cymru, sydd i gyd yn gweithio mewn partneriaeth i wneud yn siŵr bod y preswylwyr yn cael y gwasanaeth gorau posib.

Bydd yr uwchraddio’n cynnwys ardal campfa fwy gyda pheiriannau cardio newydd sbon, ardal gryfder a chyflyru, parth lles, ac amrywiol ddarnau newydd o offer.

Mae gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i’r ystafelloedd newid, yn ogystal â gosod stiwdios newydd ac ardaloedd ar gyfer hyfforddi a gweithdai.

Yn ogystal â’r gwaith yng Nghanolfan Hamdden Maesteg, mae gwaith adnewyddu wedi’i wneud ym Mhwll Nofio’r Pîl yn ddiweddar diolch i fuddsoddiad gwerth £200,000 gan y Cyngor a Halo. 

Cynlluniwyd yr adnewyddiadau nid yn unig i wella’r cyfleusterau ond i’w gwneud yn fwy hygyrch a chyfeillgar i’r amgylchedd.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys nenfydau newydd, goleuadau effeithlon o ran ynni i wella’r ystafelloedd newid, ystafelloedd newid hygyrch i deuluoedd ynghyd â chawodydd newydd effeithlon o ran ynni a thua 30 o giwbiclau newid newydd.

Yn ogystal, mae lleoedd newid hygyrch yn cael eu hadeiladu wrth ochr y pwll i greu lle llawer gwell ar gyfer pobl sydd angen cymorth ychwanegol wrth newid.

Bydd y gwelliannau ym Mhwll Nofio’r Pîl a Chanolfan Chwaraeon Maesteg yn chwarae rhan hanfodol mewn cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol gan fod llawer o breswylwyr yn defnyddio’r cyfleusterau fel ffordd i wella eu hiechyd meddwl a’u lles cyffredinol.

Da yw gweld bod y gwelliannau wedi’u datblygu gyda hygyrchedd mewn golwg ac mae hefyd yn fudd ychwanegol bod y cyfleusterau’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd nag erioed o’r blaen.

Mae’n fuddsoddiad pwysig iawn a fydd yn helpu i wneud yn siŵr bod gan y preswylwyr y cyfleusterau gorau posib ar gael am genedlaethau. Mae hi hefyd yn wych i weld gymaint o sefydliadau’n cydweithio i gyflwyno’r gwelliannau hanfodol hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

I gael gwybod mwy am yr hyn sydd gan Halo i’w gynnig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan y fenter.

Chwilio A i Y