Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adeiladwr twyllodrus yn mynd i’r carchar am dwyllo trigolion

Mae adeiladwr twyllodrus o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei erlyn ar ôl twyllo arian gan lawer o bobl ledled Cymru.

Bu i Morgan Lewis, 23, dwyllo cyfanswm o 20 o bobl ledled de Cymru, gan gynnwys mamau sengl, gweithwyr y GIG a gwraig weddw, gan achosi colledion o oddeutu £50,000.  

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Lewis wedi mynnu i gwsmeriaid dalu blaendal ymlaen llaw i ‘sicrhau amser’ er mwyn cyflawni’r gwaith, cyn peidio â dychwelyd o gwbl.

Nododd y tîm erlyn y byddai Mr Lewis yn mynd i’r safle ar y dechrau ac yn gwneud ychydig o waith, yn gadael yn aml i gasglu deunyddiau neu oherwydd ‘argyfwng yn y teulu’ cyn peidio â dychwelyd.

Yna, byddai’n defnyddio llu o esgusodion i egluro pam nad oedd yn gallu dod, gan gynnwys y tywydd a materion teuluol a phroblemau iechyd hyd yn oed.  

Pan roedd y dioddefwyr yn cyrraedd pen tennyn ac yn cysylltu ag ef i gael yr arian yn ôl fel bod modd cysylltu â masnachwr arall i wneud y gwaith, roedd yn aml yn ymosodol ac yn dreisgar.

Mewn achos a archwiliwyd gan y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir ac a gafodd ei erlyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, plediodd Lewis yn euog o 11 cyhuddiad dan y Ddeddf Twyll a 10 cyhuddiad arall dan y Rheoliadau Amddiffyn Cwsmeriaid rhag Masnachu Annheg 2008.

Cafodd Lewis ddedfryd o garchar am 16 mis, ac mae archwiliad dan y Ddeddf Enillion Troseddau yn parhau.

Disgrifiodd y Barnwr Niclas Parry bod Lewis yn graff, ystrywgar ac yn ymosodol weithiau.

Clywodd y llys bod Lewis wedi twyllo pobl heb gysylltiadau gan gynnwys mamau sengl, gweithwyr y GIG a gwraig weddw, gan achosi colled o oddeutu £50,000. Nid yn unig y mae’r bobl hyn wedi colli arian o’i herwydd ef, roedd angen talu hefyd i adfer neu gwblhau’r gwaith.

Nid yw wedi talu nôl i unrhyw rai o’r dioddefwyr, ac o ganlyniad i’r hyn y mae wedi’i wneud, mae pobl mewn dyled, wedi colli arian oedd yn rhan o etifeddiaeth a cholli arian o’u cronfeydd pensiwn.

Mae canlyniad yr achos yn anfon neges glir na fydd arferion masnach fel hyn, sydd wedi arwain at ein preswylwyr yn cael eu twyllo, yn cael eu goddef.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am fasnachwyr twyllodrus neu sydd am geisio cyngor ar ddod o hyd i weithwyr masnach ag enw da, gysylltu â’r llinell gymorth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.

Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol, ac aelod o’r Cyd-bwyllgor Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir, Dhanisha Patel

Chwilio A i Y