Adeilad newydd a meithrinfa â lle i 75 o blant wedi'u cytuno ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 15 Medi 2020
Mae cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont wedi cytuno heddiw i symud cynlluniau ar gyfer darparu adeilad newydd sbon a meithrinfa â lle ar gyfer 75 o blant ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig i'r cam nesaf.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y prosiect gwerth £10.2m yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio cyllid gan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a rhaglen cyfalaf y cyngor ei hun.
Ar hyn o bryd, mae’r ysgol gynradd a ffurfiwyd pan unwyd yr ysgol iau a'r ysgol babanod yn 2015, wedi’i lleoli ar draws dau safle cyfagos sy'n defnyddio'r adeiladau presennol.
Roedd yn rhaid i adeilad yr ysgol babanod gau yn flaenorol ar ôl i waith i atgyweirio pibell a oedd wedi byrstio ddatgelu difrod pellach.
Tra bod y cyngor a'r ysgol yn gweithio tuag at ddarparu adeilad newydd fel datrysiad tymor hir, mae’r plant yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth modiwlaidd o ansawdd uchel fel mesur dros dro.
Nawr, yn dilyn canlyniad proses werthuso addysg a safleoedd newydd, mae cynnig ar gyfer adeiladu ysgol gynradd a meithrinfa gynwysedig £10.2m newydd sbon ar safle Ysgol Iau Mynydd Cynffig yn cael ei ddatblygu.
Rwy’n hyderus y bydd y gymuned leol yn falch o weld bod y cynlluniau'n mynd rhagddynt, a'u bod o blaid creu cyfleuster cwbl newydd ar safle'r ysgol iau.
Yn dilyn ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd, dewisodd y cyngor beidio â datblygu cynnig blaenorol a fyddai wedi creu adeilad newydd ar gyfer yr ysgol ochr yn ochr ag Ysgol Gyfun Cynffig.
Yn lle, rydym wedi cytuno i edrych ar sut y gallai'r ysgol gael ei darparu yn y dyfodol o dan Fand B o'n rhaglen moderneiddio ysgolion, a dyna'n union beth mae'r cynigion hyn yn ceisio ei gyflawni.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.