Adeilad adfeiliedig i gael gweddnewidiad gwerth £250,000
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 24 Mawrth 2021
Bydd adeilad gwag pedwar llawr amlwg yng nghanol tref Maesteg yn cael ei drawsnewid a'i ddefnyddio eto fel rhan o weddnewidiad gwerth £250,000.
Mae'r hen adeilad Family Value, sydd wedi'i leoli ar Stryd Commercial, wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd ac mae angen gwaith sylweddol arno cyn y gall ailagor.
Cyn hynny, gwnaeth yr adeilad benawdau newyddion yn 2012 pan ddarganfu'r heddlu bod troseddwyr wedi sefydlu cyflenwad trydan anghyfreithlon ac yn defnyddio'r lle gwag i dyfu dros 1,500 o blanhigion canabis.
Erbyn hyn, mae swyddogion adfywio o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio ochr yn ochr â pherchennog preifat yr adeilad i wneud cais llwyddiannus am fwy na £250,000 o Gyllid Adfywio wedi'i Dargedu gan Lywodraeth Cymru.
Mae cynlluniau ar waith i greu dwy uned fasnachol llawr gwaelod ac islawr newydd yn yr adeilad ynghyd â blaen siopau newydd a gwaith mewnol ac allanol helaeth.
Bydd to a ffenestri newydd yn cael eu gosod, a bydd yr adeilad hefyd yn elwa o sawl ffenestr a drws newydd ychwanegol.
Bydd y gwaith hefyd yn sicrhau bod lloriau uchaf yr adeilad yn cael eu paratoi ac yn barod ar gyfer cynlluniau ar wahân ar gyfer y dyfodol er mwyn eu defnyddio i greu unedau preswyl a llety newydd.
Gyda chaniatâd cynllunio ar waith, rydym yn gobeithio gweld contractwyr ar y safle a gweithio yn yr adeilad cyn gynted â mis nesaf. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn eiddo yng nghanol y dref sydd wedi sefyll yn wag ers amser maith, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, perchennog yr adeilad a thîm Adfywio'r cyngor am gydweithio i wireddu'r prosiect hwn.
Yn ogystal ag ategu ein hymdrechion parhaus i roi defnydd i eiddo gwag unwaith eto, mae'r gwaith hwn yn mynd i atal yr adeilad rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer ymddygiad anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol, ac yn hytrach bydd yn sicrhau ei fod yn denu buddsoddiad newydd pellach i'r ardal. Dim ond y swm buddsoddi cychwynnol yw'r cyllid o £250,000 ar gyfer yr adeilad nodedig hwn, a bydd yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygu ei lefelau uchaf ymhellach a fydd yn y pen draw yn creu llety preswyl newydd yng nghanol y dref.
Mae'n un o nifer o brosiectau sy'n mynd i gael effaith sylweddol ar Faesteg yn y flwyddyn neu ddwy nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r adeilad wedi'i adnewyddu yn mynd i fod o fudd i'r ardal a'r economi leol.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio