Addysg a gorfodaeth er mwyn mynd i’r afael â sbwriel
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Ebrill 2019
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dyblu ei ymdrechion i leihau nifer y taflwyr sbwriel, y tipwyr anghyfreithlon a’r perchnogion cŵn anghyfrifol sy’n difetha'r amgylchedd lleol.
Mae'r cyngor wedi penodi 3GS yn bartner gorfodi ac addysg i batrolio mannau problemus ledled y fwrdeistref sirol.
Gallai unrhyw un sy’n cael ei ddal yn taflu sbwriel yn fwriadol ar y stryd neu mewn parciau a mannau cyhoeddus wynebu dirwy, ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i addysg ac atal.
Er mawr rwystredigaeth i bawb, mae sbwriel, tipio anghyfreithlon a baw cŵn yn broblem arbennig mewn rhai ardaloedd penodol. Troseddau amgylcheddol fel y rhain yw rhai o'r problemau mwyaf y mae etholwyr yn rhoi gwybod i ni amdanyn nhw. Rydym yn credu’n gryf mai addysg yw'r ffordd orau i atal hyn. Felly, bydd 3GS yn cydweithio’n agos ag Adran Gwastraff y Cyngor i helpu i addysgu trigolion a hyrwyddo ein hymgyrchoedd gwrth-sbwriel cadarnhaol.
Rydym wedi gweithio’n galed i osod mwy o finiau lle mae eu hangen, ac rydym bob amser yn barod i ystyried ceisiadau gan drigolion am fwy o finiau. Ond, yn anffodus, mae rhai trigolion yn gwbl anystyriol o eraill ac yn parhau i faeddu ein strydoedd er gwaethaf y ffaith bod biniau wrth law. Mae angen i bobl ddeall fod taflu sbwriel yn drosedd ac na fyddwn yn derbyn hyn. Nid yw'r adnoddau a’r pŵer wedi bod gennym bob amser i orfodi cosbau, ond rwyf yn falch iawn o ddweud bod y contract newydd hwn yn gam mawr i'r cyfeiriad iawn. Roeddem wedi ymgynghori â thrigolion lleol ynghylch y mater hwn y llynedd ac roedd y mwyafrif llethol ohonynt yn cefnogi'r syniad o ymdrin yn fwy llym â'r bobl hynny sy’n difetha pethau i bawb arall.
Felly rwy’n siŵr y bydd trigolion sydd o blaid y gymuned i gyd yn croesawu'r swyddogion 3GS wrth eu gweld ar y stryd neu mewn mannau cyhoeddus y mis hwn. Gan fod ganddynt y pŵer i roi hysbysiad cosb benodedig pan fo angen, bydd eu presenoldeb yn rym ataliol pwysig. Bydd unrhyw un sy'n gwrthod newid ei ffyrdd ac sy'n parhau i daflu sbwriel yn wynebu dirwy ymhen fawr o dro.
Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y cyngor
Mae'r cyngor wedi cytuno ar gontract gyda 3GS am 12 mis i ddechrau, gydag opsiwn i'w ymestyn. Bydd y contract yn cael ei weithredu ar sail ffi benodedig sy’n cyfyngu ar faint y gall 3GS ei ennill o’r contract. Bydd unrhyw arian sy’n ychwanegol at gost y contract yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hyrwyddo ac addysg gwrth-sbwriel.
Dywedodd Martin Jerrold, Rheolwr Gyfarwyddwr 3GS: “Mae 3GS yn gweithredu fel gorfodwr cymesur, sy’n golygu bod hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu rhoi ar sail angen. Ein nod yw lleihau troseddau amgylcheddol ar gyfer y tymor hir. Byddwn yn ymuno â'r cyngor i hyrwyddo ei ymgyrchoedd gwrth-sbwriel ledled ein cymunedau lleol er mwyn tynnu sylw at y bygythiad, y niwed a’r risg sydd ynghlwm â thaflu sbwriel, a byddwn yn atgoffa pobl am y cosbau sydd mewn grym am gyflawni'r troseddau hyn.”