Adborth ar gynlluniau Porthcawl ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 09 Mai 2019
Gwahoddir trigolion Porthcawl i fynychu sesiwn wybodaeth galw heibio ddydd Llun 13 Mai ynghylch cam nesaf y gwaith ar amddiffynfeydd rhag llifogydd y dref a fydd yn canolbwyntio ar y Promenâd Dwyreiniol, y Morglawdd Gorllewinol, y twyni creiriol a Thrwyn Rhych.
Yn y sesiwn, cewch gyfle i drafod canlyniadau astudiaethau blaenorol, ystyried yr opsiynau sydd ar y gweill ar gyfer ail-ddylunio’r Promenâd Dwyreiniol a rhoi eich adborth ar y cynigion.
Dewch yn llu felly i’r caffi ym Mhafiliwn y Grand ddydd Llun 13 Mai unrhyw bryd rhwng 1pm a 7pm i gael rhagor o wybodaeth.