Abergarw Manor ym Mrynmenyn yn derbyn y cleifion cyntaf er mwyn helpu i ryddhau gwelyau yn yr ysbyty yn ystod pandemig y coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Iau 16 Ebrill 2020
Mae cyn gartref gofal ym Mrynmenyn wedi derbyn ei gleifion cyntaf yr wythnos hon er mwyn helpu i ryddhau gwelyau yn yr ysbyty yn ystod brig pandemig y coronafeirws.
Mae Abergarw Manor, sy'n eiddo i'r Caron Group, wedi'i adnewyddu er mwyn darparu nifer o welyau ychwanegol i gefnogi Ysbyty Tywysoges Cymru.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda pherchnogion Abergarw Manor ym Mrynmenyn a'r cyn gartref gofal Hyfrydol ym Maesteg i ddarparu gwelyau ychwanegol.
Mae oddeutu 20 o welyau yn cael eu defnyddio yn Abergarw Manor ar hyn o bryd sy'n sicrhau bod cleifion yn gallu parhau i wella ac adsefydlu.
Mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac maent yn cael eu trosglwyddo o Ysbyty Tywysoges Cymru a Chlinig Angelton.
Mae Linc Cymru, ein partner darparu gofal ychwanegol, yn cynorthwyo'r bwrdd iechyd i ddarparu'r arlwyo a phrydau bwyd ar gyfer cleifion yn Abergarw Manor.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David
Mae Abergarw Manor ym Mrynmenyn yn gyn gartref gofal sydd wedi bod yn segur dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Caron Group yn bwriadu agor cartref gofal arall ar y safle ond oherwydd yr argyfwng coronafeirws, mae'n darparu'r adeilad yn rhad ac am ddim i'r awdurdod lleol.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda nifer o bartneriaid cymunedol er mwyn dod o hyd i ffyrdd
o gynyddu nifer y gwelyau ymhellach gan ddefnyddio cyfleusterau cymunedol er mwyn bodloni'r galw a ddisgwylir o ganlyniad i COVID-19.
“Mae ein trafodaethau wedi canolbwyntio ar addasu wardiau ein hysbytai cymunedol ac adeiladau eraill a ddatgomisiynwyd, er enghraifft cartrefi nyrsio o fewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau y gellir defnyddio wardiau ein hysbytai ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth frys ac i gefnogi pobl sydd â chyflyrau iechyd difrifol y mae angen gofal arbenigol arnynt.
“Er mwyn paratoi ar gyfer nifer cynyddol o achosion COVID-19, mae'n rhaid i ni drosglwyddo cleifion y credwn eu bod yn gallu cael eu symud i leoliadau mwy addas o fewn y gymuned.
“Bydd hyn yn golygu eu bod yn wynebu llai o risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, gan barhau i wella ac adsefydlu a dilyn unrhyw gynlluniau cytunedig a wnaed ar gyfer eu rhyddhau o'r ysbyty.”
Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid o'r trydydd sector gan gynnwys Age Connects a Mental Health Matters i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i gleifion sy’n defnyddio'r cyfleusterau, yn arbennig cleifion sydd â nam gwybyddol a dementia.
Mae'r cymorth yn cynnwys darparu cymorth i gleifion fel y gallant barhau i gysylltu â theulu a ffrindiau dros y ffôn a chan ddefnyddio offer digidol, cynorthwyo gweithgareddau cleifion yn enwedig y rhai sy'n hunanynysu yn eu hystafelloedd eu hunain a helpu perthnasau i ddarparu dillad a nwyddau personol i gleifion.