Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

A oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect ynni cymunedol?

Mae trigolion sy’n byw mewn rhannau gwledig o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwahodd i gyflwyno syniadau newydd a ffres ar gyfer prosiectau ynni cyffrous.

Bydd tîm datblygu gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn cydweithrediad â’r ‘Canolfan Ynni Cynaliadwy’ – elusen annibynnol sy’n ymwneud ag ynni – yn cynnig cymorth a fydd yn helpu i roi prosiect rhagorol ar ben y ffordd.

Un o flaenoriaethau’r tîm Reach yw annog cymunedau lleol i feddwl yn wahanol am ynni a’u cefnogi i wneud newidiadau, felly rydym yn gyffro i gyd ynglŷn ag ariannu’r prosiect hwn o dan y cynllun Cymunedau Gwledig Ffyniannus.

Bydd yn ddiddorol iawn clywed pa syniadau sydd gan y trigolion. Efallai y bydd cymuned yn dymuno cydweithio i greu rhyw fath o gynllun paneli solar, neu efallai fod ganddynt syniad arloesol sy’n canolbwyntio ar ganolfan neu neuadd gymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg ac Adfywio

Mae’n bosibl bod rhywun wedi breuddwydio gydol ei oes am greu prosiect ynni a fyddai’n fuddiol yn bersonol ac i’w gymdogion, ond heb wybod ble i ddechrau. Nid oes angen gwybodaeth drylwyr am ynni arnoch i gymryd rhan – y cyfan sydd ei angen yw digon o frwdfrydedd i weithio ar brosiect heriol y byddai eich cymuned yn elwa arno.

“Bydd y syniad mwyaf addawol a gyflwynir yn cael amrywiaeth o gefnogaeth er mwyn ei wireddu. Yn y cyfamser, bydd syniadau sy’n dod yn agos at y brif ac sydd â digon o botensial i lwyddo hefyd yn cael cymorth gan y Ganolfan Ynni Cynaliadwy.

“Er enghraifft, bydd y tîm yn gallu rhoi cyngor ar faterion technegol, ymgysylltu â’r gymuned, ennyn cefnogaeth gan eraill, cyfleoedd ariannu a rheoli prosiect.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: “Bydd penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau yn cael eu gwneud yn gynnar ym mis Ebrill, felly cynghorir ymgeiswyr i fod yn gyflym a chyflwyno’u syniadau cyn gynted ag y bo modd.”

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fyw mewn rhannau o’r fwrdeistref sirol sy’n ‘wledig’ – Abercynffig, Betws, Melin Ifan Ddu, Blaengarw, Bryncethin, Bryntirion, Trelales a Merthyr Mawr, Cefn Cribwr, Coety, Corneli, Llangeinwyr, Llangynwyd, Nantymoel, Newton, Cwm Ogwr, Penprysg, Pontycymer, Ynysawdre, Bryncoch, Felindre, Hendre a Sarn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut i gyflwyno’ch syniadau ar gyfer prosiectau ynni, ewch i wefan Ynni Pen-y-bont ar Ogwr neu ffoniwch 0117 934 1400.

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Chwilio A i Y