Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

A allai eich plentyn fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr plant oed ysgol beth yw'r meini prawf ar gyfer cael prydau ysgol am ddim.

Mae gan blant y mae eu teuluoedd neu ofalwyr yn derbyn y budd-daliadau canlynol yr hawl i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol:

  • Cymhorthdal incwm.
  • Lwfans ceisio gwaith seiliedig ar incwm.
  • Cymorth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar incwm.
  • Credyd treth plant (ond nid credyd treth gwaith) os nad yw eich incwm blynyddol, fel y'i haseswyd gan gredydau treth, yn fwy na £16,190.
  • Elfen warantedig credyd pensiwn.
  • 'Parhad' credyd treth gwaith (h.y. y taliad y gall rhywun ei dderbyn am bedair wythnos arall ar ôl iddynt roi'r gorau i fod yn gymwys i gael credyd treth gwaith).
  • Credyd cynhwysol (ddim mewn gwaith).
  • Credyd cynhwysol (mewn gwaith) lle mae eich dyfarniad yn seiliedig ar enillion blynyddol net o lai na £7,400 o'ch cyflogaeth neu hunangyflogaeth.

Mae gan bobl ifanc sy'n derbyn cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm yn eu rhinwedd eu hunain hefyd hawl i gael prydau ysgol am ddim.

Ar hyn o bryd mae dros 6,000 o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim ac mae cynnydd o 25% wedi bod mewn ceisiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae prydau ysgol yn rhan bwysig o sicrhau bod plentyn yn cael yr egni a’r maeth sydd ei angen arno er mwyn canolbwyntio a chael budd o amgylchedd dysgu.

Rydym eisiau sicrhau nad oes unrhyw un sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn methu allan, ac rwy’n annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i wirio a yw eu plentyn yn gymwys.

Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Dyfernir prydau ysgol am ddim ar gyfer pob plentyn yn unigol ac nid ar gyfer yr aelwyd. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais newydd os oes gennych chi blentyn arall yn dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf.

Nid oes angen ichi ail-ymgeisio os yw eich plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref. Fodd bynnag, dylech roi gwybod i ni os yw eich plentyn yn newid ysgol fel ein bod yn gallu diweddaru ein cofnodion.

Os yw ysgol newydd eich plentyn yn rhoi gwybod i ni ei fod yn ddisgybl gyda nhw, byddwn yn diweddaru ein cofnodion. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod iddynt am gymhwysedd eich plentyn i gael prydau ysgol am ddim.

I wneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim, gallwch gyflwyno cais drwy ddewis ‘Cais am brydau ysgol am ddim/gwisg ysgol benodol’ yn adran ‘Budd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor’ Fy Nghyfrif.

Gallwch hefyd ddysgu mwy ar y dudalen prydau ysgol am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru.

Chwilio A i Y