Y penderfyniad ar ganlyniadau arholiadau 2020 yw'r 'peth cywir i'w wneud'
Dydd Llun 17 Awst 2020
Mae Arweinydd a Chabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ddyfarnu canlyniadau arholiadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar raddau a aseswyd gan athrawon yn lle canlyniadau safonedig.