Yr heddlu, y cyngor a’r bwrdd iechyd yn cyhoeddi rhybudd ar y cyd i gefnogwyr Gŵyl Elvis
Dydd Mawrth 10 Awst 2021
Mae pobl sydd eisoes wedi archebu tocynnau, trafnidiaeth neu lety i fynychu Gŵyl Elvis Porthcawl fis nesaf yn cael eu hannog i gofio nad yw pandemig y coronafeirws wedi dod i ben, ac i fwynhau’r achlysur yn ddiogel ac yn gyfrifol.