Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion

Croeso i ganolfan cyfryngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol, a gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Adfywio  

Llwybr treftadaeth newydd ar gyfer Cwmogwr

Cyn bo hir, bydd hanes Cwmogwr yn cael ei adrodd ar hyd llwybr treftadaeth rhyngweithiol newydd. Bydd y llwybr yn dechrau ym Mharc Gwledig Bryngarw, ac yn troelli i fyny'r cwm ar hyd y llwybr beicio a cherdded i Nant-y-moel, a bydd paneli gwybodaeth wedi'u lleoli ar ei hyd, yn dogfennu gorffennol yr ardal ac yn amlygu mannau o ddiddordeb, yn ogystal â llwybrau beicio a cherdded ychwanegol.

Lleisiwch eich barn ar gynigion ar gyfer Neuadd y Dref Maesteg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gwahodd pobl i ddod i sesiynau galw heibio i weld darluniadau newydd gan arlunydd a thrafod cynlluniau ar gyfer ailddatblygu neuadd dref Maesteg.

Y Cyngor yn awyddus i fod yn rhan o chwyldro ynni glân y DU

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o gonsortiwm a fydd yn gwneud cynnig am gyfran o £40 miliwn o gyllid y llywodraeth ganolog, er mwyn datblygu ffyrdd o ddatgarboneiddio defnydd ynni’r ardal leol.

Ailddatblygiad £100,000 ar gyfer Llyfrgell y Pîl

Bydd bron i £100,000 yn cael ei fuddsoddi yn Llyfrgell y Pîl yn ddiweddarach yr hydref yma, diolch i Grant Cyfalaf Trawsnewid gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru ac arian cyfatebol gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Tair gwobr ar gyfer adeiladau newydd

Mae Adeilad Jennings ym Mhorthcawl wedi ennill gwobr arall yn dilyn ei enwi ‘Yr Adeilad Masnachol Bach Gorau’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) De Cymru.

Croeso cynnes i gynllun rhwydwaith gwres Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi estyn croeso cynnes i gynlluniau ar gyfer rhwydwaith gwres i gysylltu cartrefi ac adeiladau cyhoeddus ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn y pen draw

Chwilio A i Y