Gwasanaeth Gofal Maeth y cyngor yn chwilio am bobl ar gyfer ‘Rôl gymhleth, ond gwerth chweil’
Dydd Iau 22 Ebrill 2021
Mae tîm gofal maeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio gwasanaeth gofal maeth mewnol newydd, arbenigol gyda'r nod o weithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd byw mewn amgylchedd teuluol oherwydd eu profiad o drawma.