Cydnabod arwyr lleol yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer 2020
Dydd Iau 09 Ebrill 2020
Mae plentyn naw oed, a gododd arian er mwyn helpu coalas yn nhanau gwyllt Awstralia, dyn a gwblhaodd bedwar marathon a chwe hanner marathon yn ei gadair olwyn ar ôl canfod fod ganddo diwmor ar ei ymennydd, a chyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, a ddatgelodd ei fod wedi'i heintio â HIV er mwyn torri stigma'r cyflwr, ymhlith enillwyr Gwobrau Dinasyddion y Maer 2020.