Drysau ffrynt yn ymddangos ym Mae Caerdydd i annog pobl ledled Cymru i groesawu plant maeth i’w cartrefi
Dydd Mercher 06 Hydref 2021
Cafodd 23 o ddrysau ffrynt maint go iawn eu dadorchuddio y tu allan i'r Senedd yn gynharach yr wythnos hon, wrth i Maethu Cymru, y rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled y wlad, wahodd y cyhoedd i ystyried agor eu cartrefi i helpu plant yng Nghymru y mae taer angen gofal a chymorth arnynt.