Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael grant o'r Gronfa Teithio Llesol
Dydd Mercher 01 Mehefin 2022
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o fod wedi sicrhau grant sy'n werth ychydig dros £5 miliwn fel rhan o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn fuddiol i drigolion oherwydd caiff ei ddefnyddio i greu llwybrau beicio a cherdded diogel ac agored, fydd yn annog pobl i beidio â dibynnu'n ormodol ar geir.