Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

£8.2 miliwn yn dechrau ar ailddatblygu Neuadd Dref Maesteg

Argraff arlunydd o ailddatblygiad arfaethedig Neuadd Dref Maesteg

Mae gwaith adeiladu gwerth £8.2 miliwn wedi dechrau i drwsio, adfer ac ehangu Neuadd Dref Maesteg.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adfer i'w hen ogoniant ac mae'n cael ei ehangu ar un ochr gydag atriwm gwydr newydd, gofod theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mezzanine, a llyfrgell fodern.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a nifer o gyllidwyr allweddol ar y prosiect, sy'n un o'r buddsoddiadau mwyaf ym Maesteg mewn degawdau.

Mae cychwyn y gwaith adeiladu ar y lleoliad poblogaidd hwn yn achlysur hanesyddol ar gyfer Maesteg. Mae llawer o waith wedi'i wneud i gyrraedd y cam hwn lle y gellir troi hen adeilad yn lleoliad hardd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym yn edrych ymlaen at ei ailagor unwaith bydd y gwaith wedi'i gwblhau yr haf nesaf, a chroesawu nôl yr holl grwpiau cymunedol sy'n ei ddefnyddio.

Ni fydd yn gwasanaethu tref Maesteg fel canolfan ddiwylliannol a chanolbwynt yn unig, ond bydd hefyd yn atyniad ymwelwyr strategol ar gyfer yr holl sir a rhanbarth.

Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio

Bydd y gwaith ailddatblygu yn arwain at adfer y brif theatr hanesyddol, gosod to newydd ac ychwanegu cyfleusterau modern ar gyfer perfformwyr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan gontractwyr arbenigol Knox and Wells, sydd wedi bod yn ymwneud ag ystod o brosiectau treftadaeth yn ne Cymru fel Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Bydd y llyfrgell fodern hefyd yn cynnwys mannau cyfarfod anffurfiol a ffurfiol, gan ddarparu gofodau newydd er mwyn i bobl ymlacio a mwynhau ystod o weithgareddau sy'n mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol a gwella llythrennedd digidol – yn ogystal â chanfod mwy am hanes a threftadaeth Cwm Llynfi.

A bydd y lleoliad yn cynnwys mwy o nodweddion hygyrchedd gyda lifft i gymryd pobl â phroblemau symudedd neu blant mewn cadeiriau gwthio rhwng lloriau, a chyfleusterau tŷ bach Changing Places ar gyfer ymwelwyr ag anableddau.

Fel rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer yr ailddatblygu, mae chwech o baentiadau gan Christopher Williams, arlunydd o Gymru, wedi'u symud dros dro at ddibenion cadwraeth proffesiynol.

Yn y cyfamser, mae celfi ac offer neuadd y dref wedi'u rhoi i grwpiau cymunedol yn y dref.

Dywedodd Richard Hughes, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Ers i ni gau Neuadd Dref Maesteg i'r cyhoedd ym mis Tachwedd, rydym wedi bod yn brysur yn gweithio y tu ôl i'r llenni er mwyn paratoi ar gyfer y garreg filltir arwyddocaol hon fel rhan o'r ailddatblygiad.

“Gyda'n partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a llu o gyllidwyr a chefnogwyr, rydym yn falch o fod yn gallu adfer y lleoliad hardd hwn i'w hen ogoniant trwy ddiogelu nodweddion cyfnod a threftadaeth ddiwylliannol y neuadd wrth ychwanegu’r cyfleusterau modern sydd eu hangen ar ein perfformwyr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd, ac sy’n ddisgwyliedig ganddynt, ac mae defnyddwyr arferol y neuadd a phobl Maesteg yn eu haeddu.

“Gallwch ddilyn y cynnydd wrth i ni droi'n gweledigaeth yn realiti ar ein gwefan https://maestegtownhall.com/cy/hafan/ neu ar ein tudalen Facebook.”

Mae disgwyl i'r neuadd ailagor yn ystod haf 2021 unwaith y bydd y gwaith ailddatblygu wedi'i gwblhau.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, arian adfywio Llywodraeth Cymru, Tasglu'r Cymoedd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Tref Maesteg ac Ymddiriedolaeth Davies.

Chwilio A i Y