64,700 o bobl wedi cael eu brechiad cyntaf rhag y coronafeirws
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 02 Chwefror 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod bron i 64,700 o bobl sy’n byw ledled y rhanbarth, yn cynnwys mwy nag 17,400 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael eu brechiad cyntaf rhag y coronafeirws erbyn hyn.
O blith y 64,700 o bobl sydd wedi cael y brechlyn, mae bron i 17,700 yn perthyn i’r grŵp blaenoriaeth 80 oed a hŷn.
O blith y grwpiau eraill â blaenoriaeth, mae bron i 17,780 o staff rheng flaen yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu brechu, ynghyd â mwy na 10,900 o bobl 70-74 oed.
Ymhellach, mae 8,220 o bobl rhwng 75-79 oed, a mwy na 4,550 o bobl sydd naill ai’n preswylio neu’n gweithio mewn cartrefi gofal drwy’r rhanbarth, hefyd wedi cael eu brechiad cyntaf.
Mae’r gwaith o frechu gweithwyr rheng flaen yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd rhagddo, ac mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda meddygon teulu i sicrhau y bydd pobl agored i niwed sydd naill ai’n gaeth i’r tŷ neu sy’n hunanwarchod yn cael brechiad cyn 14 Chwefror.
Yn y cyfamser, bydd y ganolfan brofi drwy ffenest y car ar safle hen ffatri Revlon / Cosi oddi ar Oakwood Drive ym Maesteg (CF34 8TS) yn parhau i fod ar gael rhwng 9am-4pm tan ddydd Iau 4 Chwefror.
Hefyd, bydd y safle profi galw i mewn hirdymor ym maes parcio Neuadd Fowlio Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) yn parhau i fod ar gael rhwng 8am-8pm.
Mae’n hanfodol trefnu apwyntiad ymlaen llaw ar gyfer y ddau gyfleuster. Cewch fwy o wybodaeth am sut i drefnu apwyntiad trwy ddarllen gwefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119. Gall pobl sydd ag anawsterau clywed neu siarad drefnu apwyntiad trwy ffonio 18001119.