£6.5m awarded for UK’s first large scale mine-water energy project
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 19 Ionawr 2018
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig heddiw fod £6.5m o arian gan yr UE wedi'i roi i fenter gwerth miliynau o bunnau yng Nghaerau ger Maesteg i ddefnyddio dŵr o hen lofa i gynhesu cartrefi lleol gan wneud yr ardal yn rhan flaenllaw o chwyldro ynni gwyrdd y DU.
Mae’r dŵr tanddaearol yn hen bwll glo Caerau wedi ei gynhesu yn naturiol gan y ddaear, felly bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio i sut y gellir echdynnu’r gwres drwy ddefnyddio technoleg pympiau gwres a rhwydwaith o bibelli i wresogi rhyw 150 o dai cyfagos.
Hwn fydd y cynllun ynni dŵr pwll glo ar raddfa fawr cyntaf erioed i gael ei ddatblygu yn y DU.
Yr Iseldiroedd yw’r arweinwyr byd-eang o ran defnyddio’r math hwn o dechnoleg ar hyn o bryd. Agorwyd gorsaf bŵer dŵr pwll glo gyntaf y byd yn 2008 yn nhref Heerlen - yng nghalon ardal mwyngloddio Iseldiraidd a gaeodd ei phwll glo olaf yn y 970au.
Ein huchelgais yw bod ein cenedl yn arwain y byd o ran arloesi ynni carbon isel. Mae hwn yn fodel sydd ar flaen y gad o ran creu ffynhonnell lân o ynni adnewyddadwy sy’n defnyddio gwaddol ein treftadaeth mwyngloddio. Bydd hyn yn denu rhagor o fuddsoddiad i’r ardal, yn ogystal ag ymdrin â thlodi tanwydd drwy leihau biliau ynni, ac mae posibilrwydd y caiff y cynllun ei gyflwyno ledled Cymru a thu hwnt. “Bydd y cynllun hefyd yn creu swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu cychwynnol a thrwy’r gadwyn gyflenwi barhaus, ac yn ogystal â hynny, bydd yn cynnig cyfleoedd am hyfforddiant ac addysg. Mae hon yn un o blith llawer iawn o enghreifftiau o effaith gadarnhaol Cronfeydd yr UE ar ein rhanbarth ni.
Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Canfu drilio arbrofol i mewn i’r gwaith mwyngloddio o dan safle’r Hen Fragdy yng Nghaerau yn ystod yr hydref fod y gwagle yn llawn dŵr ar ddyfnder o 230 metr, ac ers hynny mae Arolwg Daearegol Prydain wedi bod yn cynnal profion ar dymheredd, cynnwys cemegol a chyfaint y dŵr sydd ar gael.
Ni chaiff yr astudiaeth ddichonoldeb ei chwblhau tan ddiwedd mis Chwefror, ond mae’r arwyddion cynnar yn galonogol iawn gan fod tymheredd cyfartalog y dŵr ryw 20.6 gradd Celsius – yn ddigon cynnes i’r cynllun fod yn llwyddiannus.
Mae cyfaint a thymheredd y dŵr yn gwneud y cynllun yn bosibl a, gan fod £6.5 miliwn wedi’i ddyfarnu i ni gan Gronfeydd yr UE erbyn hyn, y cam nesaf fydd gweithredu cwmpas cyfan y cynllun a pharatoi popeth i gyflawni prosiect sy’n torri tir newydd ar gyfer Cwm Llynfi. Bydd hyn hefyd yn ysgogi buddsoddiadau eraill mewn prosiectau ynni, drwy’r Fargen Ddinesig a chyllid allanol arall o bosibl.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau.
Bydd y rhwydwaith gwres cychwynnol yn cynnwys 150 o dai a’r ysgol a’r eglwys gerllaw, ond mae’n bosibl hefyd y bydd y cynllun yn gwresogi miloedd o dai lleol yn y pen draw.
Bwriedir cyflwyno arddangosfa yn ystod gwanwyn 2018 pan gaiff canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb eu rhannu â thrigolion Caerau ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y prosiect. Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau yn 2020 a chaiff y cartrefi cyntaf eu cysylltu â’r system yng ngaeaf 2021.
Mae’r cynllun yn brosiect arddangos ar gyfer Rhaglen Gwres Systemau Clyfar Llywodraeth y DU. Amcangyfrifir y bydd cyfanswm cost y prosiect ryw £9.4 miliwn ac mae arian cyfatebol o £2.2 miliwn wedi ei sicrhau eisoes drwy gyfraniadau ariannol ac adnoddau staff gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Energy Systems Catapult a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trafodaethau yn parhau ynglŷn â’r £700,000 ychwanegol sydd ei angen, ac mae’r cyngor yn targedu ffynonellau posibl eraill o gyllid grant.
Mae gan Brosiect Gwres Dŵr Pwll Glo Caerau lawer iawn o randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Prifysgol Caerdydd, BGS, Kensa, Egnida, SPECIFIC, Carreg Las, Energy Systems Catapult, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo.
Mae hyn yn datblygu i fod yn brosiect ymchwil hynod ddiddorol sy’n dyfnhau ein dealltwriaeth o geometreg islaw’r wyneb a hydroleg gwaith pwll glo. Gallai’r ffynhonnell ynni gwres carbon isel arloesol hon helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyrraedd targedau’r llywodraeth i gyflawni gostyngiad o 80 y cant yn allyriadau carbon y DU erbyn 2050.
Hywel Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd.
Rydym ni’n hynod o awyddus i ymgysylltu â’r cyhoedd drwy gydol y prosiect hwn, felly mae arddangosfa wedi ei threfnu yng ngwanwyn 2018 pan fydd canfyddiadau'r ymchwiliadau yn cael eu rhannu â thrigolion Caerau ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y prosiect. Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2020. Caiff manylion llawn am yr arddangosfa eu cyhoeddi yn fuan.
Cynghorydd Richard Young.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ceri Williams neu Michael Jenkins yn nhîm Datblygu Cynaliadwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 643133.