Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

£3m o grantiau wedi'u talu i fusnesau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi prosesu trydydd cam o daliadau grant cyfyngu sy'n dod i gyfanswm o £3,000,000 i 750 o fusnesau yn awtomatig ar ôl ddarparu cyllid pellach i gefnogi sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad ydynt yn hanfodol.

Bydd y taliadau awtomatig hyn yn cael eu talu i gyfrifon banc ddydd Mercher 24 Mawrth ar gyfer busnesau sy'n talu ardrethi annomestig ac sydd eisoes wedi derbyn taliad am grant cyfyngiadau rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.

Mae'r grantiau arian parod yn ychwanegol at y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau drwy'r grantiau Ardrethi Annomestig (NDR) a byddant yn helpu busnesau gyda'u costau hyd at 31 Mawrth 2021.

Bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000. Bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £500,000 yn derbyn £5,000.

Mae'r cyngor wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y grantiau hyn yn cael eu talu i fusnesau cyn gynted â phosibl i gynorthwyo gyda'u llif arian parod uniongyrchol a'u helpu i oroesi yn y cyfnod heriol iawn hwn.

Mae dros £45 miliwn o gyllid wedi'i dalu i fusnesau ers dechrau'r pandemig ac rydym yn parhau i weithio'n gyflym i sicrhau bod y grantiau hyn yn cael eu derbyn mor gyflym â phosibl.

Gofynnwn yn garedig i fusnesau beidio â chysylltu â'r cyngor i wirio cynnydd cais gan y gall ohirio'r broses.

Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David

Am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael i fusnesau, ewch i dudalen we cymorth ariannol y cyngor.

Chwilio A i Y