Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â COVID-19

Wrth i bandemig y coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf.

Tasglu economaidd newydd

Mae tasglu economaidd newydd ar gyfer y cyfnod sy'n dilyn y pandemig yn cael ei greu ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr i helpu'r ardal i ddod allan o'r cyfyngiadau presennol. Yn cynnwys rhaglen ymgysylltu economaidd newydd a chyda chyllideb gwerth £1.6 miliwn mewn lle, sef y Gronfa Dyfodol Economaidd, bydd y tasglu yn asesu effaith argyfwng y coronafeirws ar yr economi leol ac yn datblygu cynllun economaidd a fydd yn helpu busnesau i addasu i'r dirwedd economaidd sy'n newid, gwella eu gwydnwch, a darparu cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant, sgiliau a chyflogaeth yn ogystal â busnes newydd. Gyda mewnbwn sylweddol gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd y tasglu yn nodi anghenion busnesau lleol mewn modd effeithlon, cydgysylltiedig, a bydd yn cynnwys arweinwyr busnes, sefydliadau lleol yn y sector cyhoeddus, cynrychiolwyr o sectorau busnes a chyrff masnach, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Lawntydd bowlio a chyrtiau tenis 

Mae lawntydd bowlio a chyrtiau tenis yn gallu cael eu hailagor ledled Cymru nawr, ond gofynnir i glybiau bowlio ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a ddarperir yn annibynnol, e-bostio'r cyngor lleol os ydynt yn bwriadu ailagor yn unol â chanllawiau llym sydd wedi'u cyhoeddi gan BowlsCymru. Er bod y cyngor yn parhau i gynnal a chadw safleoedd, mae'r cyrtiau tenis awyr agored cyhoeddus ym Mharc Griffin ym Mhorthcawl yn parhau i fod ar gau ar yr adeg hon.

Rhoi diolch i roddwyr gwaed yn ystod y pandemig

Mae ffigurau a gynhyrchwyd gan Wasanaeth Gwaed Cymru wedi datgelu y camodd mwy na 6,800 o bobl i’r adwy i roi gwaed mewn canolfannau rhanbarthol wrth i bandemig y coronafeirws ledaenu a chyfyngiadau symud ddechrau cael effaith, gyda 466 ohonynt yn dod o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. O'r nifer hwn, roedd 74 hefyd yn rhoi gwaed am y tro cyntaf. Mae'r gwasanaeth wedi diolch i bawb a gynigiodd eu cefnogaeth, a bydd yn cyhoeddi manylion cyfleoedd pellach i roi gwaed cyn bo hir.

Grantiau i gynorthwyo busnesau newydd

Gall cwmnïau sydd newydd ddechrau nad ydynt yn gymwys i’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gan Lywodraeth y DU wneud cais am gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru gwerth hyd at £2,500. Bydd y grant yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, a gall busnesau wirio eu cymhwysedd trwy ymweld â gwefan Busnes Cymru.

Byddwch yn wyliadwrus am fasnachwyr twyllodrus

Mae'r cyngor yn atgoffa trigolion lleol i wirio eu bod yn defnyddio cludwr gwastraff trwyddedig o hyd cyn talu am unrhyw wasanaethau. Os nad oes gan fusnes y drwydded gywir, gall eich gwastraff gael ei dipio yn anghyfreithlon, gan arwain at erlyniad posibl. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Helpu'r digartref

Mae cymorth ar gyfer y digartref yn dal i fod ar gael yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae cyfleuster Jigsaw y cyngor yn asesu anghenion pobl er mwyn naill ai eu hatal rhag mynd yn ddigartref neu i helpu i ddarparu llety brys. Ceir cyngor ynghylch digartrefedd, y gofrestr tai a budd-dal tai ar-lein, a gall pobl hefyd gysylltu â'r cyngor drwy talktous@bridgend.gov.uk neu drwy ffonio 01656 643643.

Aros un cam ar y blaen i COVID-19

Mae'r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yn gweithio i helpu pobl i gael mynediad at gymorth ac i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws yng Nghymru. Mae'n gweithio trwy olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â thrigolion a gweithwyr allweddol sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19, a sicrhau bod ganddyn nhw gefnogaeth hefyd wrth ystyried pwy arall y gallan nhw fod wedi bod mewn cysylltiad ag ef er mwyn aros un cam ar y blaen i'r feirws. Ewch i dudalen coronafeirws y cyngor am ragor o fanylion.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol

Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion mwyaf agored i niwed y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs hyfforddiant gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau swyddi gwefan y cyngor.          

Cysylltu â'r cyngor

Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643. 

Chwilio A i Y