Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

21 04 20 Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â COVID-19

Wrth i bandemig y coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf, ac mae'r ychwanegiadau mwyaf diweddar ar y brig:

Cymorth busnes yn cyrraedd £20.8 miliwn

Mae cyllid grant busnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o becyn cymorth busnes COVID-19 Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd mwy na £20.8 miliwn. Gydag 1,636 o geisiadau gan gwmnïau lleol wedi'u prosesu hyd yn hyn, mae'r cymorth ar gael i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru ac sy'n meddiannu safleoedd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Mae hefyd yn cynnwys y rheini sy'n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ond nad ydynt yn talu ardrethi busnesau ar hyn o bryd, a busnesau manwerthu, hamdden neu letygarwch â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Gellir gwneud ceisiadau drwy gwblhau'r ffurflen ar-lein. Sylwer, er mwyn osgoi oedi wrth brosesu ceisiadau, mae'n hanfodol fod yr holl ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth hanfodol a chywir, gan gynnwys copïau o gyfriflenni banc sy'n dangos manylion banc.

Ap newydd yn ceisio helpu ymladd COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn annog pobl i lawrlwytho ap o’r enw COVID Symptom Tracker i gefnogi ymateb y GIG i COVID-19. Mae'r ap wedi'i gynllunio i dracio lledaeniad y feirws, creu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl, a darparu arwyddion cynnar o ble mae derbyniadau ysbyty yn y dyfodol yn debygol o gael eu canolbwyntio.

Rhybudd am fandaliaeth, tanau bwriadol a mwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhybuddio y bydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw un sy'n cael eu canfod yn cyflawni gweithredoedd troseddol fel fandaliaeth, tipio anghyfreithlon, tanau bwriadol a mwy yn ystod achos y coronafeirws COVID-19. Mae'n dilyn nifer o ddigwyddiadau bach o amgylch safleoedd ysgolion sy'n destun ymchwiliadau, cynnydd yn y swm o wastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon y mae'r awdurdod yn ei glirio, tanau glaswellt yng Nghwm Llynfi, ac atafaelau nifer o gerbydau oddi ar y ffordd gan Heddlu De Cymru. Gyda'r system teledu cylch cyfyng ar draws y fwrdeistref sirol dal yn weithredol i gefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru, mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i adrodd ymddygiad amheus neu droseddol ar unwaith trwy ffonio'r heddlu ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.

Cymorth i'r digartref
Mae amrediad o gymorth ar gyfer y digartref ar waith ar gyfer pobl sy'n ddigartref yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae cyfleuster Jigsaw'r cyngor yn parhau i asesu anghenion pobl er mwyn naill ai eu hatal rhag mynd yn ddigartref neu i helpu i ddarparu llety brys. Ceir cyngor ynghylch digartrefedd, y gofrestr tai a budd-dal tai ar-lein, a gall pobl hefyd gysylltu â'r cyngor drwy talktous@bridgend.gov.uk neu drwy ffonio 01656 643643. Mae pedwar o bodiau a gynlluniwyd i helpu'r sawl sy'n cysgu ar y stryd i gadw'n ddiogel wrth hunanynysu hefyd wedi cael eu darparu ac maent yn cael eu defnyddio ger prosiectau a gynhelir gan The Wallich a chymdeithas tai Pobl, sy'n cynnig cymorth 24/7 ar gyfer yr unigolion sy'n eu defnyddio.

Help i ddod o hyd i waith
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gynnig help a chymorth ar gyfer pobl sy'n chwilio am waith ychwanegol neu gyfleoedd swydd newydd yn ystod yr achos o coronafeirws COVID-19. Maent yn gallu darparu cyngor ac arweiniad yn rhad ac am ddim ar-lein, dros y ffôn, mewn neges destun neu dros Skype mewn meysydd sy'n amrywio o gwblhau ffurflen gais, creu CV, neu ennill sgiliau a chymwysterau newydd, ac maent wedi cynorthwyo pobl i ddod o hyd i waith mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, manwerthu a dosbarthu. Am ragor o fanylion, ffoniwch 01656 815317 neu e-bostiwch employability@bridgend.gov.uk.

Ceisiadau am ofal plant brys

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer gofal plant brys o ddydd Llun 27 Ebrill hyd at ddydd Gwener 1 Mai. Nid oes angen i unrhyw un sydd wedi cyflwyno cais o flaen llaw ar gyfer yr wythnos nesaf wneud cais arall. Gofynnir i bobl sydd wedi gwneud cais am ofal plant brys nad oes ei angen bellach hysbysu'r cyngor drwy e-bostio EDFSCOVID19@bridgend.gov.uk gan fod staff yn gwirfoddoli i gynnal y lleoliadau yn ôl y galw. Mae'r awdurdod lleol yn parhau i gynghori'n gryf fod rhieni yn cadw eu plant gartref oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol i beidio â gwneud hynny – y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar ddydd Mercher 22 Ebrill.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol

Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion mwyaf bregus y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs hyfforddiant gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau swyddi gwefan y cyngor.

Cysylltu â'r cyngor

Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643

Chwilio A i Y