Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

2019 Gwobrau i adeiladau newydd gorau'r fwrdeistref sirol

Mae gwaith gweddnewid anhygoel hen safle Ysgol Gynradd Coety yn saith cartref moethus wedi cael ei gydnabod yn nhrydedd seremoni flynyddol ar ddeg Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC).

Cipiodd y datblygiad gan Scimitar Homes Limited wobrau ‘Datblygiad Bach Tai Newydd Gorau’ a'r ‘Wobr Gynllunio Arbennig’ yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn swyddfeydd dinesig y cyngor. Cafodd Scimitar Homes Limited eu canmol am y ffordd y cafodd eu cartrefi eu dylunio'n hardd, eu heffeithlonrwydd ynni, a'r ffordd y maent yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos.

Adeilad newydd arall a enillodd wobrau oedd datblygiad gofal ychwanegol Linc Cymru yn Ynysawdre. Cafodd y cynllun, sy'n caniatáu i bobl hŷn fyw mor annibynnol â phosibl, ei enwi yr ‘Adeilad Gwasanaeth Cyhoeddus Gorau’. Hefyd, enillodd adeiladwyr y datblygiad, Jehu Project Services, ail wobr am y cynllun wrth i reolwr y safle, Glyn Rees, gipio gwobr ‘Adeiladwr Proffesiynol LABC Gorau'r Flwyddyn’.

Bu gwaith adfer rhagorol y ciosg yn harbwr Porthcawl gan Henstaff Construction Ltd yn golygu mai dim ond un enillydd amlwg fu yng nghategori'r ‘Adeilad Masnachol Bach Gorau’. Mae'r gwaith adfer wedi cadw cymeriad go iawn yr hen adeilad ac mae'n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr anabl. Bydd y ciosg ar agor i'r cyhoedd yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Ymysg yr enillwyr eraill fu adeilad newydd Ysgol Gynradd Pencoed, a gafodd ei enwi yr ‘Adeilad Addysgol Gorau’. Rhoddodd y contractwyr, BAM Construction Limited, ystyriaeth lawn i ddiogelwch tân, cadw pŵer tanwydd a hygyrchedd mewn adeilad cymhleth, gan greu ysgol o'r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau: “Diben Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC yw dathlu rhagoriaeth o'r bwrdd dylunio i'r safle, gan gydnabod y crefftwaith a'r arloesedd technegol sydd eu hangen i greu adeilad o ansawdd uchel. Mae'r holl gynlluniau arobryn hyn yn dystiolaeth o'r hyn mae modd ei gyflawni pan fydd pawb yn cydweithio ar brosiect, gan greu adeiladau cynaliadwy, diogel ac arloesol sydd yn unol â rheoliadau adeiladu.

Diben Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC yw dathlu rhagoriaeth o'r bwrdd dylunio i'r safle, gan gydnabod y crefftwaith a'r arloesedd technegol sydd eu hangen i greu adeilad o ansawdd uchel. Mae'r holl gynlluniau arobryn hyn yn dystiolaeth o'r hyn mae modd ei gyflawni pan fydd pawb yn cydweithio ar brosiect, gan greu adeiladau cynaliadwy, diogel ac arloesol sydd yn unol â rheoliadau adeiladu.

Caiff y gwobrau eu trefnu gan dîm rheoli adeiladu'r cyngor, sy'n cynnal 7,000 o arolygiadau bob blwyddyn, o wirio sylfeini tŷ newydd i isadeiledd dur prosiect diwydiannol. Gall yr holl enillwyr fod yn hynod falch o'u gwobrau a hoffwn longyfarch pob un ohonynt ar eu llwyddiant.”

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau

Bydd pob enillydd y gwobrau nawr yn cystadlu yn erbyn eraill o ledled y rhanbarth yng Ngwobrau LABC De Cymru, a gynhelir ym mis Ebrill, cyn gobeithio mynd ati i'r gwobrau cenedlaethol yn ddiweddarach eleni.

Noddwyd Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2019 gan Bam Construction, Scimitar Homes, Henstaff Construction Ltd, ACD Skips Ltd, Morganstone Ltd, The Jehu Group, Llanmoor Homes, GreenBuild Consult ac Aico Ltd.

Dyma restr lawn o enillwyr gwobrau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Newid gorau o ddefnyddio adeilad presennol neu drosiad: Newid o ddefnyddio annedd ddomestig i gartref gofal preswyl yn Fferm Cildaudy yng Ngoetre-hen gan T Adams and Sons Building Contractors.

Gwobr cynllunio arbennig a'r datblygiad tai bach newydd gorau: Saith tŷ newydd yn ‘The Paddocks’ ar hen safle Ysgol Gynradd Coety. Adeiladwyd gan Scimitar Homes Limited.

Datblygiad mawr tai newydd gorau: Datblygiad o 99 o gartrefi newydd yn ystad Parc Derwen gan Llanmoor Homes Ltd.

Datblygiad tai cymdeithasol newydd gorau: Ar dir yn Fferm y Parc yng Nghoety, mae 24 o gartrefi newydd wedi'u hadeiladu i safon uchel gan Morganstone Ltd ar ran Cymdeithas Tai Wales & West.

Adeilad gwasanaeth cyhoeddus gorau: Datblygiad gofal ychwanegol yn Ynysawdre, a adeiladwyd gan Jehu Project Services ar gyfer Linc Cymru.

Adeilad addysgol gorau: Adeilad newydd Ysgol Gynradd Pencoed, a adeiladwyd gan BAM Construction Ltd.

Adeilad masnachol bach gorau: Mae hen gaffi wedi cael ei ailddatblygu i greu Ciosg Harbwr Porthcawl, y mae disgwyl iddo agor ar y glannau yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Adeiladwyd gan Henstaff Construction Ltd.

Partneriaeth LABC orau â chwsmeriaid gyda thîm rheoli adeiladu awdurdod lleol: Amryw brosiectau gan Ewenny Home Improvements. Maent yn parhau i blesio cwsmeriaid gyda'u sylw i fanylder.

Adeiladwr proffesiynol LABC gorau'r flwyddyn: Glyn Rees, y rheolwr safle ar gyfer Jehu Project Services ar ddatblygiad gofal ychwanegol Linc Cymru yn Ynysawdre. Mae Glyn wedi bod yn y diwydiant am 40 a mwy o flynyddoedd ac mae ei holl gyfoedion yn ei edmygu ac yn ei barchu.

Chwilio A i Y