£2 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau
Poster information
Posted on: Dydd Llun 16 Tachwedd 2020
Mae busnesau ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael bron i £2 filiwn mewn cymorth ariannol dros y tair wythnos ddiwethaf fel rhan o'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol Llywodraeth Cymru.
Mae'r gronfa yn darparu nifer o grantiau ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, rhai sefydliadau nid-er-elw a rhai busnesau mewn sectorau eraill.
Wedi'i hanelu at helpu busnesau sydd wedi wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achoswyd gan y cyfyngiadau cloi diweddar, mae'r gronfa'n cynnwys y Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symud a'r Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud.
Hyd yn hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi prosesu a chyhoeddi 472 o Grantiau Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symud gwerth cyfanswm o £1.45 miliwn i fusnesau lleol.
Yn y cyfamser, gwnaed tua 250 o daliadau i fusnesau lleol sydd wedi gwneud cais am y Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud, gwerth bron i £450,000.
“Cyflwynwyd yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau a oedd yn wynebu colli incwm yn ystod y cyfnod atal byr i fynd i’r afael â lledaeniad coronafeirws. “Byddem yn annog unrhyw fusnes sy'n gymwys ac sydd heb wneud cais am gyllid i sicrhau eu bod yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl - mae ceisiadau'n cael eu trin ar sail y cyntaf i'r felin a allai arwain at beidio â gwerthuso ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn."
Dywedodd Arweinydd y Cyngor
Nid yw busnesau sy'n cael y Grant Dewisol yn gymwys i gael y Grant Ardrethi Annomestig.
I wneud cais am y grantiau hyn neu am ragor o fanylion, ewch i dudalen we cymorth busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.