£2.5 miliwn i gryfhau pontydd Melin Ifan Ddu
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 15 Chwefror 2019
Bydd cyfanswm o £2.5 miliwn yn cael ei wario ar waith gwella i gryfhau dwy bont ym Melin Ifan Ddu fel y gall cerbydau nwyddau trwm barhau i deithio ar hyd yr A4061 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Ogwr.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i'r afael â'r gwaith rhwng hydref 2019 a haf 2020.
Mae'r rhain yn ddau adeiledd allweddol sy'n cefnogi'r rhwydwaith priffyrdd felly mae'n bwysig cymryd camau rhagweithiol i'w cryfhau nawr er mwyn sicrhau eu hirhoedledd.
Bydd y gwaith pontydd yn sicrhau y gall cerbydau nwyddau trwm barhau i ddefnyddio'r llwybr ar gyfer cyflenwadau i fusnesau yn yr ardal ac ohonynt. Bydd y gwaith yn cefnogi masnachwyr a thrigolion fel ei gilydd yn y cwm, i gyd wrth sicrhau bod llwybr cymunedol pwysig a phoblogaidd yn parhau'n ddiogel i'w ddefnyddio.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Bydd y ffordd yn aros ar agor ar gyfer y rhan fwyaf o'r gwaith, gyda rhai cyfnodau posibl o'i chau dros dro ar benwythnosau.