Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

10 07 20 Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â COVID-19

Wrth i bandemig y coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf.

Babanod a anwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud

Mae apwyntiadau ar gael yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer rhieni nad ydynt wedi gallu cofrestru genedigaeth babanod a anwyd yn ystod cyfnod y coronafeirws COVID-19 yn ogystal â chyplau sy'n dymuno rhoi hysbysiad ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil sydd i ddod. Bydd yr apwyntiadau ar gael o ddydd Llun, 13 Gorffennaf, yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi'i lleoli mewn safle newydd o fewn y Swyddfeydd Dinesig ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, a gellir trefnu apwyntiad drwy ffonio 01656 642391 neu e-bostio registrar@bridgend.gov.uk. Sylwch, tra bod y pandemig ar waith, bydd Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ond yn hygyrch trwy apwyntiad ac nid oes gwasanaeth galw heibio ar gael ar hyn o bryd. Unwaith y bydd apwyntiad wedi'i drefnu, bydd modd cael mynediad i Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr drwy fynedfa'r seremoni, a leolir wrth ochr y Swyddfeydd Dinesig.

Safle newydd ar gyfer Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gwaith wedi parhau trwy gydol y pandemig i sefydlu Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr ar ei newydd wedd yn ei safle newydd o fewn y Swyddfeydd Dinesig. Yn ogystal â bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer cofrestru genedigaethau a marwolaethau, mae'r swyddfa gofrestru wedi'i haddasu fel y gellir cynnal priodasau dwyieithog, partneriaethau sifil, seremonïau dinasyddiaeth, adnewyddu addunedau, dathliadau i enwi babanod a mwy. Mae'n cynnwys ystafell seremoni sy'n gallu dal hyd at 50 o westeion, ac mae ganddi system sain a goleuo newydd, gwell wi-fi, dolen glyw a mwy. Mae'r cyngor yn rhagweld y bydd priodasau a seremonïau eraill yn gallu cael eu cynnal yn yr adeilad newydd o 24 Awst ymlaen – cadwch lygad allan am ragor o fanylion cyn bo hir.

Ailgylchu eich gwastraff cardfwrdd

O ganlyniad i oedi wrth weithgynhyrchu sachau ailgylchu oren newydd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, gofynnir i drigolion sydd angen archebu sach newydd ar gyfer eu gwastraff cardfwrdd i ddefnyddio blwch cardfwrdd addas neu fag arall sydd ganddynt dros dro, y gellir ei adael ar agor fel y gall criwiau weld y cynnwys. Gellir gosod darnau mwy o gardfwrdd wrth ymyl eich bag neu flwch i'w casglu, a disgwylir y bydd sachau newydd yn cyrraedd erbyn mis Medi.

Y newidiadau diweddaraf o ran y cyfyngiadau symud

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r newidiadau diweddaraf o ran y cyfyngiadau symud. Gall llety hunangynhwysol nad yw'n cynnwys cyfleusterau a rennir ailagor o ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf, ac o ddydd Llun, 13 Gorffennaf ymlaen, gall salonau trin gwallt, siopau barbwr a thrinwyr gwallt symudol agor ar yr amod eu bod yn cadw at yr holl ofynion o ran cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo. Gall ardaloedd awyr agored tafarndai, bariau, caffis a bwytai agor hefyd, a bydd yn bosibl i gynnal sinema awyr agored. Mae atyniadau dan do i ymwelwyr yn parhau i fod ar gau am y tro, ond gydag asesiadau risg a mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, gall eglwysi ac addoldai ailddechrau gwasanaethau, tra caniateir hyd at 30 o bobl i ymgasglu yn yr awyr agored ar gyfer gweithgareddau fel dosbarthiadau ffitrwydd neu addoli ar y cyd cyn belled â'u bod wedi'u trefnu'n ddiogel. Ewch i wefan Gov.uk am ragor o fanylion. 

Opsiynau ar gyfer ailagor mannau chwarae

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y gall cynghorau ailagor mannau chwarae dros yr wythnosau nesaf unwaith y byddant yn fodlon ei bod yn ddiogel i wneud hynny ac mai prin yw’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Mae opsiynau ar gyfer eu hailagor ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, ond atgoffir trigolion, tra bod hyn yn cael ei ystyried, bod yn rhaid i fannau chwarae barhau i fod ar gau nes ceir hysbysiad pellach.

Bae Trecco yn ailagor

Gyda Pharc Gwyliau Bae Trecco ym Mhorthcawl ar fin ailagor ddydd Llun, 13 Gorffennaf, efallai y ceir rhywfaint o oedi traffig dros dro tra bod cerbydau'n ciwio i gael mynediad at y parc. Mae'r cyngor wedi rhoi cyngor i weithredwyr y parc er mwyn helpu i leddfu hyn, ond efallai y dylai gyrwyr eraill ystyried bod y parc yn ailagor wrth gynllunio taith leol. Mae patrolau Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) wedi ailddechrau oddi ar Fae Trecco a Sandy Bay, ac mae cyfyngiadau’r pandemig ar waith i gyfyngu ar y potensial o ddod i gysylltiad â'r feirws.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol

Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion mwyaf bregus y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs hyfforddiant gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau swyddi gwefan y cyngor.          

Cysylltu â'r cyngor

Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643. 

Chwilio A i Y