10 04 20 Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â COVID-19
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 10 Ebrill 2020
Wrth i'r pandemig coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf, ac mae'r ychwanegiadau mwyaf diweddar ar y brig:
Penwythnos y Pasg
Gyda thywydd cynnes i ddod dros benwythnos y Pasg yn ôl rhagolygon y tywydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog pobl i aros gartref yn ddiogel, er mwyn atal y risg o ddod i gysylltiad â’r feirws a helpu i ddiogelu'r GIG. Mae pob mynwent, parc a man chwarae yn dal i fod ar gau, ac mae meysydd parcio yn Rest Bay a Salt Lake ym Mhorthcawl wedi cael eu cau gydag arwyddion digidol wedi'u codi ar lwybrau i mewn i'r dref. Mae ceir ag uchelseinyddion yn patrolio'r fwrdeistref sirol, a bydd Heddlu De Cymru yn cadw golwg agos ar y sefyllfa.
Mynediad i fanciau bwyd
Mae amseroedd agor banciau bwyd wedi'u cadarnhau ar gyfer penwythnos Gŵyl Banc y Pasg. Ddydd Gwener 10 Ebrill, dim ond banciau bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg (11am-1pm) a Phontycymer (12pm-2pm) fydd ar agor. Ni fydd unrhyw un ar agor ddydd Llun 13 Ebrill, a bydd banciau bwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerau, Maesteg (11am-1pm) a Phorthcawl (10am-12pm) ar gael ddydd Mawrth 14 Ebrill. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr.
Casgliadau ailgylchu a sbwriel
Bydd casgliadau ailgylchu a sbwriel yn cael eu casglu fel arfer ar ddydd Gwener y Groglith a diwrnod yn hwyrach na'r arfer yn dilyn Gŵyl Banc Dydd Llun, hyd at a chan gynnwys dydd Sadwrn 18 Ebrill. Mae'r broses o ddosbarthu bagiau gwastraff glas a bagiau ailgylchu bwyd gwyrdd yn mynd rhagddi, ond mae wedi'i hoedi ychydig oherwydd effaith y pandemig. Mae rowndiau dosbarthu ychwanegol ar waith ac mae disgwyl i'r gwasanaeth ddychwelyd i'w amser arferol cyn bo hir.
Diogelwch eich hun rhag fasnachwyr twyllodrus
Gyda chynnydd yn nifer y busnesau gwaredu gwastraff sy'n hysbysebu gwasanaethau ar y cyfryngau cymdeithasol, mae trigolion yn cael eu hannog i wirio eu bod yn gludwyr gwastraff trwyddedig cyn eu bod yn talu am unrhyw wasanaethau. Os nad oes gan fusnes y drwydded gywir, gallai eich gwastraff gael ei dipio yn anghyfreithlon gan arwain at erlyniad posibl. Cewch ragor o wybodaeth ar: wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Coelcerthi mewn gerddi
Mae'r cyngor a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhybuddio trigolion ynglŷn â llosgi gwastraff y cartref a gwastraff gardd. Gall tanau sy'n mynd y tu hwnt i reolaeth arwain at ddargyfeirio adnoddau diffodd tân i ffwrdd o ymdrechion ar y rheng flaen i fynd i'r afael â phandemig COVID-19, ac mae pryderon iechyd yn cynnwys yr effeithiau posibl ar gymdogion â phroblemau anadlol, yn enwedig y rheini sy'n gwella o'r coronafeirws. Gofynnir i drigolion ailgylchu cymaint ag y gallant, i gompostio gwastraff gardd a storio unrhyw eitemau y gall fod angen mynd â hwy i'r canolfannau ailgylchu cymunedol pan fyddant yn ailagor.
Moderneiddio ysgolion
Mae pandemig y coronafeirws COVID-19 wedi golygu bod yn rhaid atal gwaith adeiladu ar nifer o brosiectau moderneiddio ysgolion dros dro. Gyda phroblemau ynghylch argaeledd nwyddau adeiladu, gofynion cadw pellter cymdeithasol a goblygiadau iechyd a diogelwch ar gyfer staff, mae prosiectau megis hwb y dwyrain ac ystafelloedd dosbarth newydd yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr wedi'u hatal dros dro, gan achosi oedi anochel o ran eu cwblhau yn ôl y disgwyl. Mae'r cyngor a'i bartneriaid yn monitro'r sefyllfa yn agos, a bydd y gwaith adeiladu yn ailddechrau cyn gynted â'i fod yn ddiogel i wneud hynny.
Gwelliannau i'r gymuned
Mae cyllid gwerth mwy na £90,000 wedi'i gytuno er mwyn i gynghorau tref a chymuned alluogi amrediad o brosiectau i fynd rhagddynt trwy gydol 2020-21. Bydd Cyngor Cymuned Cefn Cribwr yn buddsoddi yng ngwaith adnewyddu Pafiliwn Cae Gof er mwyn cefnogi timau rygbi a phêl-droed lleol. Bydd Coety Uchaf yn adnewyddu mannau chwarae yn Litchard Park, a bydd Corneli yn gwella'r ganolfan gymunedol leol. Bydd Cwm Garw yn cynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol ar Ganolfan Fywyd Betws, a bydd Trelales yn adnewyddu canolfan gymunedol Bryntirion a Threlales. Bydd Cyngor Tref Maesteg yn sefydlu cronfa grant y gellir ei defnyddio i gefnogi clybiau lleol, a bydd Castellnewydd Uchaf yn darparu wynebau a goleuadau newydd ac yn uwchraddio meysydd chwarae Pen-y-fai. Bydd Pencoed yn parhau i uwchraddio Pafiliwn Pencoed, bydd Porthcawl yn adnewyddu toiledau Stryd Ioan, a bydd y Pîl yn darparu cyfarpar chwarae newydd ym mharc Waun Cimla.
Cysylltu â'r cyngor
Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.