Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

09 06 20 Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â COVID-19

Wrth i'r pandemig coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf.

Dathlu gofalwyr yn ystod y pandemig

Oherwydd y pandemig parhaus, mae digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal i nodi Wythnos Gofalwyr 2020 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Wedi'i chynllunio i godi ymwybyddiaeth, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud ar gyfer teuluoedd a chymunedau lleol, mae Wythnos Gofalwyr yn annog pobl nad ydynt o bosib wedi ystyried eu hunain fel gofalwyr yn flaenorol i gysylltu er mwyn manteisio ar help a chefnogaeth. Wedi’u trefnu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, bydd digwyddiadau sy'n amrywio o drafodaethau panel, boreau coffi rhithwir, gemau ar-lein a sesiynau ‘eich stori’ yn cael eu cynnal. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan https://www.ctsew.org.uk/.

Lansio cerdyn adnabod newydd

Bydd Wythnos Gofalwyr 2020 yn cynnwys lansiad cerdyn adnabod newydd ar gyfer gofalwyr. Wedi'i gynllunio i'w cynorthwyo o fewn eu rolau, bydd y cerdyn yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod y pandemig. Amcangyfrifir bod 18,000 o ofalwyr di-dâl yn gofalu am berthnasau, ffrindiau, partneriaid neu gymdogion yn y fwrdeistref sirol, felly bydd y cerdyn yn rhoi mynediad â blaenoriaeth iddynt i archfarchnadoedd ac yn helpu’r gwasanaethau brys i'w hadnabod fel unigolion sydd â rhywun yn ddibynnol arnynt.

Help a chefnogaeth ar gyfer trais domestig

Mae cymorth ar gyfer trais domestig yn parhau i fod ar gael drwy gydol pandemig y coronafeirws, ac mae gwasanaethau a gynigir gan Calan DVS yn canolbwyntio'n bennaf ar gyswllt dros y ffôn. Mae llety lloches yn parhau, fel y mae cymorth ar alwad – gallwch gael help neu ddarganfod mwy drwy ffonio 01656 815919 neu e-bostio assia@calandvs.org.uk. Mae Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) Pen-y-

bont ar Ogwr yn darparu gwasanaethau diogelu ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i niwed ac – gallwch adrodd pryderon ynglŷn â phlentyn i 01656 642320 neu mashcentra@bridgend.gov.uk, a phryderon ynglŷn ag oedolion i 01656 642477 neu adultsafeguardingMASH@bridgend.gov.uk. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen we MASH.

Adnoddau Iaith a Chwarae

Mae swyddogion o wasanaeth Dechrau'n Deg y cyngor wedi recordio cyfres o ddarlleniadau o lyfrau, caneuon a sesiynau crefft a mwy er mwyn sicrhau bod plant ifanc o oddeutu 100 o deuluoedd lleol yn gallu parhau i ddatblygu sgiliau iaith a chwarae pwysig. Fel dewis amgen i sesiynau cymunedol rheolaidd cyn y pandemig, mae'r adnoddau wedi'u lanlwytho ar dudalen Facebook gaeedig y mae'r plant a'u teuluoedd yn gallu cael mynediad ati. Cewch ragor o fanylion drwy gysylltu â'r tîm Sgiliau Sylfaenol ar 01656 642642.

Gweminarau busnes am ddim

Gall aelodau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr fanteisio ar weminarau ar-lein am ddim sydd wedi'u cynllunio i helpu busnesau i baratoi ar gyfer ailagor. Bydd y gweminarau, sydd yn cael eu cynnal gan arbenigwyr cydnabyddedig ac sy'n cwmpasu ystod o bynciau fel opsiynau ar ôl y cyfnod ffyrlo i gyflogwyr, strategaethau ymadael a materion i'w hystyried pan fydd gweithwyr yn dychwelyd i'r gwaith, yn cychwyn ddydd Iau, 25 Mehefin ac mae'n rhaid archebu lle o flaen llaw trwy e-bostio business@bridgend.gov.uk. I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr.

Gofal plant brys ar gyfer gweithwyr allweddol

Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ofal plant brys yr wythnos nesaf yn dod i ben am 12pm, ddydd Mercher 10 Mehefin. Cewch ragor o fanylion a gallwch gyflwyno cais ar wefan y cyngor.

Dyddiad cau wedi'i gadarnhau ar gyfer cyllid busnes

Mae gan fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hyd at 5pm ar 30 Mehefin 2020 i wneud cais am gymorth cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Cewch ragor o fanylion a gallwch gyflwyno cais ar-lein ar wefan y cyngor.

Sicrhewch eich bod yn cael gwared ar negeseuon diangen, osgoi sbam ac arbed amser.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol

Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion mwyaf bregus y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs hyfforddiant gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau swyddi gwefan y cyngor. 

Cysylltu â'r cyngor

Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643. 

Chwilio A i Y